Tafarn boblogaidd 300 oed ar dân ym Mro Morgannwg

ITV Cymru
Tafarn yr Hare and Hounds

Mae criwiau tân wedi cael eu galw i ddigwyddiad wedi i dân gynnau mewn tafarn 300 oed ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg fore Iau.

Mae nifer o beiriannau tân wedi cael eu gweld y tu allan i dafarn yr Hare & Hounds ym mhentref Aberthin,

Image
Aberthin
(Llun: Media Wales)

 

Ailagorodd y dafarn ddechrau 2015 ar ôl i’r cogydd lleol Tom Watts-Jones a’i wraig, Sarah, gymryd yr awenau ac adnewyddu’r safle.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael galwad tua 08.30 yn dilyn adroddiadau am dân mewn eiddo ar Heol Maendy, Aberthin.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân: “Mae criwiau, peiriannau tân, bowser dŵr a llwyfan hydrolig awyr o Ben-y-bont ar Ogwr, Llanilltud Fawr, y Barri, Pontypridd, Mynydd Cynffig ac Elái yn y fan a’r lle ar hyn o bryd.

“Mae’r digwyddiad yn parhau," meddai'r llefarydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.