Tad o Gaernarfon yn codi £3,000 i brofi mwy na 100 o ddynion am ganser y prostad
Mae tad o Gaernarfon sy'n byw gyda chanser y prostad cam 4 wedi codi dros £3,000 i brofi mwy na 100 o ddynion am yr afiechyd.
Cafodd Gwyndaf Jones, 61 oed, ddiagnosis o ganser y prostad nad oes modd gwella ohono yn ystod haf 2024 - flwyddyn ar ôl iddo ddechrau teimlo’n sâl.
Ers hynny, mae wedi bod yn rhannu ei brofiad ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r gobaith o godi ymwybyddiaeth o'r canser ymhlith dynion yn y gogledd.
Mae'r cyn-swyddog heddlu yn dweud fod ganddo "deimladau cymysg" am y digwyddiad i brofi 120 o ddynion ym mwyty Copa yng Nghaernarfon ddydd Iau.
"Ar un ochr dwi'n excited, mae 'na lot o bobl 'di gweithio'n galed i neud hyn ddigwydd, ond dwi'n bryderus hefyd achos mae 'na rai dynion yn mynd i ffeindio allan mewn rhai dyddiau bo' gyno nhw ganser y prostad," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dydi'r rhan fwyaf o ddynion ddim yn gwybod am y prostate a tair blynedd yn ôl do'n i ddim chwaith.
"Er bod 'na campaigns, dydi o ddim yn sincio mewn efo dynion."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd eu cynllun canser newydd yn rhoi pwyslais ar "wella cyfraddau canfod canser yn gynnar".
'Sgrinio yn hanfodol'
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU erbyn hyn, yn ôl ystadegau a gafodd eu cyhoeddi gan Prostate Cancer UK ym mis Ionawr.
Yn ôl ffigyrau’r elusen, cafodd 64,425 o ddynion ddiagnosis yn 2022, o gymharu â 61,640 a gafodd ddiagnosis canser y fron, sef y canser a oedd yn arfer bod y mwyaf cyffredin. Ond yn wahanol i ganser y fron, nid oes rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad.
Mae Prostate Cancer UK yn galw ar y GIG i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol sy’n defnyddio profion PSA, sef y profion gwaed ar gyfer canser y prostad.
Ond mae Pwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig yn dweud na ddylai sgrinio ar gyfer canser y prostad fod ar gael ar gyfer mwyafrif llethol y dynion yn y DU.
Yn hytrach, nododd y pwyllgor y dylid sgrinio dynion rhwng 45 a 61 oed gyda newidiadau genetig BRCA1 a BRCA2, sef lefel risg uwch, bob dwy flynedd.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn credu y gallai ei ganser fod wedi cael ei ddal yn gynt petai wedi cael prawf yn gynt.
O ganlyniad, mae'n credu y dylai pob dyn rhwng 40 ac 80 oed gael cynnig prawf PSA.
"Mae lot o ddynion yn meddwl sgen i'm symptoms, felly dwi'm angen test," meddai.
"I ddechrau pan neshi fynd at y doctor a geshi ddim prawf, doedd gen i ddim llawer o symptoms.
"Ond blwyddyn wedyn oedd gen i lot o symptoms, so weithia mae’r symptoms yn dod yn hwyr."
Er mwyn cynnal y digwyddiad ddydd Iau, mae Mr Jones wedi bod yn cydweithio gyda'r Graham Fulford Charitable Trust - elusen sy'n cefnogi ymwybyddiaeth o ganser y prostad a diagnosis cynnar trwy brofion PSA.
Bydd y profion gwaed yn cael eu cwblhau gan fflebotomyddion (phlebotomist), cyn cael eu hanfon i labordy ym Manceinion i'w prosesu.
Mae disgwyl i ddynion sydd wedi cael prawf dderbyn eu canlyniadau o fewn 24 awr, yn ôl Mr Jones, gyda'r rhai sy'n derbyn canlyniad annormal yn cael eu cynghori i fynd at eu meddyg teulu i'w trafod ymhellach.
Y bwriad ydi cynnal digwyddiadau profi mewn ardaloedd eraill yng Ngwynedd dros y misoedd nesaf.
"Dwi jyst yn falch bo' fi'n medru rhoi wbath yn ôl a nadu pobl erill rhag bod yn yr un sefyllfa â fi," meddai.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd Cynllun Canser y llywodraeth newydd yn cynnwys pwyslais ar wella cyfraddau canfod canser yn gynnar.
"Byddwn yn ystyried yn ofalus argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ar sgrinio am ganser y prostad a’i oblygiadau i Gymru cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar weithredu. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’r GIG yng Nghymru a’r trydydd sector.
"Dylai unrhyw un sydd â symptomau canser y prostad, neu bryderon amdano, gysylltu â’u meddyg teulu."