Dyn wedi ei achub o glogwyn yn Sir Benfro ar ôl cael ei ddal gan y llanw
Mae dyn wedi cael ei achub o glogwyn yn Sir Benfro ar ôl iddo gael ei ddal gan y llanw.
Cafodd bad achub pob tywydd RNLI Dinbych-y-pysgod ei alw i Freshwater East am 21:30 nos Fercher ar ôl i Wylwyr y Glannau dderbyn galwad 999 gan y dyn.
Roedd wedi dringo’r clogwyn er mwyn dianc rhag y llanw, ond yna wedi mynd yn sownd.
Aeth y criw gwirfoddol tua saith milltir a hanner i’r gorllewin o Ddinbych-y-pysgod a defnyddio goleuadau chwilio pwerus i ddod o hyd iddo.
Arhosodd y bad achub yn yr ardal nes i hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau gyrraedd.
Cafodd y dyn ei godi i ben y clogwyn, lle’r oedd aelodau o dîm achub Gwylwyr y Glannau yn aros amdano.
Dychwelodd y bad achub i’r orsaf am 22:50.