Galw am oriel gelf genedlaethol er mwyn rhoi 'llwyfan cryfach i artisitiaid Cymru'

Iwan Bala / Lisa Eurgain Taylor

Mae artistiaid yn galw am greu oriel gelf genedlaethol yng Nghymru er mwyn rhoi "llwyfan cryfach i artistiaid" Cymreig.

Ar hyn o bryd does dim oriel gelf genedlaethol gyfoes yn y wlad, gyda rhwydwaith o orielau ar draws Cymru a phlatfform ar-lein yn bodoli yn unig dan yr enw 'Celf'.

Un sydd wedi bod yn galw am oriel genedlaethol yng Nghymru yw'r artist Iwan Bala.

Dywedodd wrth Newyddion S4C mai nawr yw'r "amser i ofyn" gyda Llywodraeth Plaid Cymru mewn grym yn y Senedd.

“Dwi wedi teimlo erioed y dylse Cymru gael oriel gelf gyfoes genedlaethol, fel pob gwlad arall, a phob rhanbarth yn yr Almaen er enghraifft," meddai.

“Mae llwyth o waith cyfoes mewn storfa yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn yr Amgueddfa Genedlaethol, heb ddigon o le i'w ddangos i'r cyhoedd.

“Felly, nid gwendid yn y gwaith sydd ar gael yw e, ond diffyg yn ein sefydliadau i wneud y gwariant sydd ei angen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "adeiladu" ar eu cyfres o orielau drwy fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer "'angorfa' sy'n cryfhau ein gallu i gynnal partneriaethau ac arddangosfeydd o bwys".

Image
Un o'r orielau celf sy'n rhan o rwydwaith 'Celf yng Nghymru
Un o'r orielau celf sy'n rhan o rwydwaith 'Celf' yng Nghymru

'Cyfle arbennig'

Artist arall sy'n galw am oriel gelf genedlaethol yw Lisa Eurgain Taylor o Fôn.

Bellach yn gweithio o'i stiwdio yng Nghei Llechi, Caernarfon, mae hi'n dweud bod angen "rhoi llwyfan cryfach" i artistiaid Cymreig yng Nghymru.

“Dwi’n meddwl y bysa fo’n rhywbeth mor werthfawr i ni fel gwlad," meddai wrth Newyddion S4C.

“Ma' gynnon ni genedl greadigol ofnadwy, ma' gynnon ni hanes cyfoethog o gelf a gymaint o artistiaid talentog yn gweithio yma heddiw.

“Ond does 'na nunlle sy’n adrodd y stori yna’n llawn, felly ‘sa fo'n gyfle mor arbennig i ddathlu ein diwylliant ni a’n creadigrwydd ni fel cenedl.

“Ma’n rhoi llwyfan cryfach i artistiaid Cymru hefyd dwi’n meddwl."

Image
Mae gwaith Lisa Eurgain Taylor yn cael eu hsybrydoli gan fynyddoedd Eryri
Mae gwaith Lisa Eurgain Taylor yn cael eu hsybrydoli gan fynyddoedd Eryri

Ychwanegodd y byddai oriel genedlaethol yn golygu na fyddai artistiaid yn teimlo'r angen i arddangos eu gwaith y tu allan i Gymru.

Mae gan yr Alban, Lloegr ac Iwerddon orielau celf genedlaethol yn eu prifddinasoedd nhw.

“Dwi’n meddwl bod artistiaid yn teimlo fel bod angen arddangos y tu allan i Gymru i gael cydnabyddiaeth neu rywle mwy uchelgeisiol i ddangos eu gwaith," meddai Lisa.

“Felly fysa jyst mor anhygoel cael rhywle yng Nghymru sy’n dangos y talent ac yn rhoi'r gydnabyddiaeth yna i artistiaid."

'Cyfuno diwylliant a diwydiant'

Yn wreiddiol o’r Bala, mae Angharad Pearce Jones yn "sylweddoli'r potensial cerfluniol" mewn deunydd dur, sydd wedi bod yn ganolog i'w gwaith fel artist.

Petai hi'n cael dewis lleoliad ar gyfer oriel gelf genedlaethol yng Nghymru, byddai'n dewis calon y diwydiant dur yn y wlad.

“Os byse fi yn Heledd Fychan a bod gen i lot o arian, ond dwi'n gwybod bod arian yn brin, fyswn i’n rhoi o yn Port Talbot," meddai wrth raglen teledu Newyddion S4C.

“Cyfuno’r diwylliant â'r diwydiant gyda'i gilydd fel sydd yn digwydd yn Ewrop.

“Byswn i’n rhoi o mewn ffatri fawr ym Mhort Talbot, wedyn wrth iddo gael momentwm, mynd i adeilad penodol.

“Mae oriel gelf gyfoes yn gallu bod yn hwb i artistiaid yn rhyngwladol, yn gallu rhoi Cymru ar y map, hwnna ‘di’r cam ‘dan ni’n golli."

Image
Port Talbot fyddai'r lle gorau i oriel gelf genedlaethol Cymru, meddai Angharad Pearce Jones
Port Talbot fyddai'r lle gorau i oriel gelf genedlaethol Cymru, meddai Angharad Pearce Jones

Ychwanegodd ei bod yn deall bod gan Lywodraeth Cymru newydd flaenoriaethau eraill ar gyfer gwariant, ond bod oriel yn gallu dod ag arian i Gymru.

“Dwi'n cytuno bod rhestrau aros, iechyd, addysg yn fwy pwysig ar hyn o bryd," meddai.

“Ond ‘dan ni’n gwybod am ffaith, lle ti’n rhoi’r celfyddydau a diwydiannau celfyddydol mewn ardaloedd, ma’n dod ag arian i mewn a ma’n dod â buddsoddiad i mewn."

Mae ei barn yn cael ei hadleisio gan Lisa Eurgain Taylor, sydd yn dweud bod "artistiaid yn dallt" bod arian cyhoeddus yn brin.

“Ma’r llywodraeth newydd dan gymaint o straen i sortio gymaint o broblemau ar hyn o bryd ‘llu, dydy rhywbeth fel oriel genedlaethol ddim yn rhywbeth sy’n mynd i ddigwydd dros nos," meddai.

“Ma artistiaid yn dallt hynny, ond mi fysa fo’n anhygoel gwybod bod 'na drafodaethau ynglŷn â chael oriel genedlaethol yn y dyfodol agos yn mynd ymlaen.

“Ond ma celf yn rhywbeth mor bwysig, does 'na ddim pwynt byw heb bethau yn y celfyddydau i helpu ni i ddoddrwy'r cyfnod anodd yma 'dan ni'n byw ynddo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.