Elon Musk yn anelu at fod y triliwnydd cyntaf erioed wrth i Space X lansio ar y marchnadoedd stoc
Gallai Elon Musk fod y triliwnydd cyntaf erioed wrth i’w gwmni Space X lansio ar y marchnadoedd stoc ddydd Gwener.
Mae disgwyl i werth y cwmni gyrraedd 1.8 triliwn o ddoleri’r UD, ar ôl iddo godi $75 biliwn ar ôl cael ei restru yn gyhoeddus.
Mae perchennog X a Telsa, Elon Musk, eisoes y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd ond gallai agor Space X i fuddsoddiad gan y cyhoedd a sefydliadau gynyddu ei werth ar bapur eto fyth.
Wrth i Space X lansio bydd pob un o gyfrandaliadau y cwmni yn costio $135 o ddoleri, a mae 555.6 miliwn o gyfranddaliadau eisoes wedi cael eu gwerthu.
Byddai hynny’n gwneud y cwmni yr ‘Initial Public Offering’, neu’r IOP, mwyaf erioed yn hanes y farchnad stoc ar draws y byd.
Ond fe all gwerth cyfranddaliadau SpaceX godi neu ostwng ar ôl dechrau masnachu ar fynegai stoc y Nasdaq.
Mae rhai sylwebwyr ariannol wedi rhybuddio aelodau o’r cyhoedd sydd am fuddsoddi i aros i weld cyn rhoi eu harian i mewn i’r cwmni, gyda phryderon ei fod wedi cael ei orbrisio.
Dywedodd Susannah Streeter, prif strategaethydd buddsoddi yn Wealth Club: “Mae Elon Musk yn hoffi creu argraff fawr ym mhopeth mae’n ei wneud, ond efallai na fydd yn tanio’r marchnadoedd gyda thanwydd roced y tro hwn.
“Mae buddsoddwyr wedi prynu cyfran o’i freuddwydion mawr o ddominyddu’r gofod, er gwaethaf y risgiau sy’n gysylltiedig â’i weledigaeth.
“Mae uchelgeisiau SpaceX yn anferth ac o bosibl yn drawsnewidiol, ond maen nhw hefyd yn hynod gostus o ran cyfalaf ac yn dibynnu ar ddatblygiadau technolegol pellach a chymeradwyaeth reoleiddiol.
“Mae’r wythnosau a’r misoedd nesaf yn debygol o weld o weld y stoc yn codi a gostwng, rhywbeth sy’n digwydd yn aml ar ôl rhestru.”
Yn y cyfamser, mae cewri eraill y byd technoleg, AI OpenAI ac Anthropic, hefyd wedi datgelu cynlluniau i fynd yn gyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwethaf.