Russell T Davies yn trafod byw yng nghysgod bygythiadau i'w fywyd

Russell T Davies

Mae'r dramodydd teledu Russell T Davies wedi disgrifio byw gyda bygythiadau i'w fywyd wedi iddo leisio ei gefnogaeth dros hawliau trawsryweddol.

Mewn cyfweliad â The Guardian cyn cyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos nesaf, dywedodd y Cymro 63 oed o Abertawe, a ddaeth i amlygrwydd am ei waith ar gyfresi Doctor Who, Queer as Folk, It's a Sin a Torchwood, ei fod wedi dechrau cadw cyllell wrth ddrws ei gartref rhag ofn iddo ddioddef ymosodiad.

Dywedodd ei fod wedi dioddef blynyddoedd o fygythiadau am leisio ei farn yn agored:

"Mae'r byd ar-lein yn dod yn fyd go iawn... mae pobl wedi dod o hyd i fy nghyfeiriad ac fe wnaeth un person ymddangos yn fy nhŷ.

"Os ydych chi'n credu fod pedoffeil yn byw yma, nid yw'r peth mwyaf gwallgof yn y byd i ddod yma (i ymosod arna i)".

Mae wedi dioddef ymosodiadau geiriol gan gynnwys cael ei alw yn bedoffeil a hefyd ymosodiad corfforol yn ystod ei fywyd fel dyn hoyw.

Ychwanegodd yn y cyfweliad ei fod wedi bod yn dweud ers blynyddoedd fod hawliau pobl LGBTQ+ yn hynod o denau, ac mae'r sefyllfa yn gwaethygu.

"Beth sydd yn fy nychryn yw nad ydw i yn gweld pen draw y peth", meddai.

"Does dim yn mynd i gael gwared ar y barwniaid technolegol hyn - byddai angen rhyw fath o chwyldro i'w hatal.

"Felly am y tro cyntaf mewn hanes, mae casineb yn cael ei droi i mewn i ffordd o wneud arian gan algorithm.”

Magwraeth

Yn y cyfweliad estynedig mae Davies yn trafod ei fagwraeth a'i berthynas gyda'i dad, y profiad o golli ei bartner Andrew Smith yn 2018, a'i berthynas newydd gyda'r model 27 oed Oliver Cole.

Mae hefyd yn trafod ei brofiad o fod ar alwad ffôn yn trafod ariannu darn o waith gyda'r troseddwr rhyw Harvey Weinstein:

“Dylwn i fod wedi bod yn mynd ar ôl yr arian - gallai fod wedi datrys ein holl broblemau - ond doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu dioddef sgwrs ffôn gydag o.

"Roedd yn ddyn sinistr, yn gwneud i mi deimlo’n arswydus.

"Doedd dim gwahaniaeth fod fy nghynhyrchydd Faith Penhale ar yr alwad ai peidio; roedd ganddi hi’r amserlenni a’r cyllidebau - ac fe wnaeth yntau eu diystyru’n llwyr.”

Yn enedigol o Abertawe, aeth Davies i'r brifysgol yn Rhydychen cyn gweithio am gyfnod gyda'r BBC.

Dechreuodd ysgrifennu ar gyfer y teledu yn 1994 ac, mewn gyrfa ddisglair, mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys gwobrau BAFTA Cymru a Gwobr BAFTA Dennis Potter.

  • Fe fydd hunangofiant Russell T Davies, 'The Queerest of Folk: A Life in Television', yn cael ei gyhoeddi ar 8 Hydref gan Bantam / Transworld Publishers.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.