Rhys Mwyn wedi profi pyliau o banig ar ôl diagnosis o ganser y prostad

Rhys Mwyn wedi profi pyliau o banig ar ôl diagnosis o ganser y prostad

Mae Rhys Mwyn wedi dweud iddo brofi pyliau o banig ar ôl derbyn diagnosis o ganser y prostad y llynedd.

Wrth siarad â Newyddion S4C mewn digwyddiad profi canser y prostad yng Nghaernarfon, dywedodd y cerddor a'r cyflwynydd radio 63 oed fod y cyfnod yn dilyn y diagnosis ym mis Hydref wedi bod ymysg y rhai anoddaf yn ei fywyd.

"Pan ti’n cael diagnosis ar y dechrau, ges i’r panic attacks gwaethaf dwi 'rioed di gael - erchyll," meddai.

"Jyst codi ganol nos a ti’n cyrraedd pwynt lle ti methu cysgu, methu diodde bod yn y tŷ, methu mynd allan achos bo' hi’n ganol nos."

Er ei fod wedi "derbyn" y diagnosis erbyn hyn, mae Rhys Mwyn yn dweud ei fod wedi "newid fy mywyd i’n llwyr dros nos".

"Unwaith mae rhywun yn gwynebu dy farwolaeth dy hun, ac mae hwnna’n realiti o dy flaen ti, mae popeth yn newid," meddai.

"Fyddi di byth, byth yr un fath."

'Dim pwynt anwybyddu'

Yn un o aelodau gwreiddiol y band pync o'r 1980au a'r 90au, Yr Anhrefn, ac yn cyflwyno rhaglen radio ei hun ar BBC Radio Cymru bob nos Lun, mae Rhys Mwyn yn llais cyfarwydd i nifer o bobl ar draws Cymru.

Mae'n awyddus i drafod ei ddiagnosis gyda'r gobaith o annog dynion eraill dros 50 oed i gael prawf am ganser y prostad.

Fe gafodd Rhys Mwyn ddiagnosis o ganser y prostad cam 3, sy'n golygu bod y clefyd wedi datblygu yn yr ardal leol.

Mae'r cerddor eisoes yn derbyn therapi hormonau ac fe fydd yn dechrau triniaeth radiotherapi ddiwedd yr haf.

Dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r risg genetig o ddatblygu canser y prostad, gan fod ei dad hefyd wedi byw gyda'r clefyd.

"Yn ei 80au, roedd o wedi byw efo'r canser, ond ddaru o farw o Parkinson's a dementia," meddai.

"Mae’n goro dod lawr i’n sefyllfa ni mewn realiti, does na'm pwynt bod ofn neu anwybyddu fo - mae’n rhaid i chi jyst gwynebu o."

Ychwanegodd: "Mae pobl yn dweud bod ddim angen cael y prawf, ond os fyswn i heb gael y prawf mi fysa fy mywyd i’n llawer llai na mae’n mynd i fod."

Mae elusen Prostate Cancer UK yn galw ar y GIG i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol sy’n defnyddio profion PSA, sef y profion gwaed ar gyfer y canser.

Ond mae Pwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig yn dweud na ddylai sgrinio ar gyfer canser y prostad fod ar gael ar gyfer mwyafrif llethol y dynion yn y DU.

Yn hytrach, nododd y pwyllgor y dylid sgrinio dynion rhwng 45 a 61 oed gyda newidiadau genetig BRCA1 a BRCA2, sef lefel risg uwch, bob dwy flynedd.

Image
Rhys Mwyn
Dywedodd Rhys Mwyn fod garddio yn ei helpu i ymdopi gyda'i ddiagnosis

Mae Rhys Mwyn yn annog dynion i fod yn ymwybodol o symptomau canser y prostad.

Yn ôl y GIG, gall symptomau gynnwys newidiadau i arferion pasio dŵr, problemau rhyw, a phoen cefn.

Gall y rhai sy'n profi symptomau, neu sydd mewn categori risg uwch, ofyn am brawf gan eu meddyg teulu.

"Mae rhywun yn gweld y newidiadau, a be' fysa ni’n feddwl ydi bo' ni’n mynd yn hŷn," meddai.

"Ond rŵan, dwi'n gweld y llynedd bod yr arwyddion yna, a do'n i ddim yn nabod nhw."

Wrth drafod sut mae'n ymdopi ers cael y diagnosis, dywedodd fod cyflwyno ei raglen radio a garddio yn "cadw'r enaid mewn check".

"Heblaw am teulu agos, ffrinidau agos, beth sy’n cadw fi fynd ydi sioe radio BBC Radio Cymru bob nos Lun," meddai. 

"Pan ma' rhywun yn deud pan 'da chi’n caru’ch gwaith... mae bob eiliad o’r sioe yna’n cyfri pan 'da ni’n sgwrsio efo’r gwrandawyr. 

"A tu allan i waith, mae cael potsian yn yr ardd. Dyna lle mae nghapel i. 

"Dwi'n mynd i’r ardd efo’r blodau, efo’r adar."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.