Streeting 'yn barod' i danio gornest arweinyddiaeth wythnos nesaf
Mae Wes Streeting wedi dweud "y byddai yn barod" i danio gornest i ddewis olynydd i Keir Starmer mor gynnar ag wythnos nesaf.
Wrth siarad ar raglen BBC Newsnight dywedodd y bydd yn rhaid taclo "ansicrwydd a'r parlys" sy'n bodoli o fewn y blaid Lafur os yw'r blaid yn ennill yr is-etholiad yn Makerfield.
Mae Streeting ac Andy Burnham wedi dweud yn y gorffennol y bydden nhw yn sefyll mewn unrhyw ornest i fod yn Brif Weinidog. Ond dydyn nhw heb ddweud tan rŵan y bydden nhw yn barod i danio'r ornest.
Mae Keir Starmer wedi dweud wrth newyddiadurwyr nad oes ganddo fwriad "cerdded i ffwrdd" ond yn hytrach "parhau gyda'r hyn y ces i fy ethol i wneud".
Mae Andy Burnham yn Faer Manceinion ar hyn o bryd. Ond mae'n ymgeisydd Llafur ar gyfer yr is-etholiad yn Makerfield. Os bydd yn ennill y sedd honno fe fydd yn Aelod Seneddol ac yn gallu tanio gornest neu sefyll mewn gornest.
Fe ofynnodd Victoria Derbyshire, cyflwynydd BBC Newsnight wrth Wes Streeting a fyddai o yn barod i danio'r ras arweinyddiaeth.
"Dwi'n credu bod angen rhoi rhywfaint o le ac amser i’r prif weinidog fyfyrio dros y penwythnos, ac wedyn y dylen ni weld ble rydyn ni wedyn.
"Byddai’n well gen i i’r Prif Weinidog wneud penderfyniad ar ei delerau ei hun yn hytrach na’i adael i fi neu Andy neu unrhyw un arall sbarduno cystadleuaeth.
"Os na fydd hynny’n digwydd, allwn ni ddim parhau gyda’r ansicrwydd a’r parlys hwn, a bydd angen cynnal cystadleuaeth, ac mi fyddwn i yn barod i wneud hynny," meddai.
Fe ymddiswyddodd Wes Streeting o gabinet Llywodraeth y DU fis dwytha. Wrth adael fe gyhuddodd y cyn ysgrifennydd iechyd Starmer o fod yn "ddi-gyfeiriad" a heb weledigaeth.