Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod y Garreg Las
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r pum unigolyn fydd yn Llywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod yn Sir Benfro ym mis Awst.
Mae'r pum person o ardal y Garreg Las ac wedi eu dewis ar ôl i'r pwyllgorau lleol eu henwebu. Maent yn cael eu henwebu am eu cyfraniad at y Gymraeg yn yr ardal a'r hyn maent wedi gwneud i fywyd diwylliannol eu milltir sgwâr hefyd.
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol bod hi'n "uchafbwynt blynyddol i dderbyn yr enwebiadau a’r cyfle i anrhydeddu’r bobl arbennig hyn sydd wedi rhoi o’u hamser yn ddiflino i fywyd diwylliannol eu hardal leol.'
Ychwanegodd: "Heb y bobl yma, byddai'r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.”
Llywyddion Anrhydeddus
Margaret Daniels yw un o'r pump fydd yn Llywyddion Anrhydeddus eleni. Mae'n un o hoelion wyth y byd corawl lleol ers dychwelyd i’w hardal enedigol. Mae wedi arwain sawl côr gan gynnwys Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r Cylch. Erbyn hyn mae'n arwain Côr Merched Bro Nest wnaeth hi sefydlu yn 1992 a Chôr Meibion Blaenporth. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd fel arweinydd nifer o gymanfaoedd canu lleol a thu hwnt ac yn organydd Capel Blaenannerch.
Cafodd Alun Ifans ei eni yn Sarn Bach, Pen Llŷn ond Sir Benfro sydd wedi bod yn gartref iddo ers ei ddyddiau coleg. Am dros dri degawd fo oedd prifathro Ysgol Gynradd Casmael ac fe sefydlodd oriel gelf sydd yn dal i fodoli heddiw. Mae’r casgliad yn cynnwys gwaith Alun ei hun a rhoddion gan artistiaid adnabyddus fel Kyffin Williams ac Aneurin Jones. Yn ogystal â bod yn artist mae hefyd yn ysgrifennwr sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys cyfrolau i ddysgwyr Cymraeg. Yn y gorffennol mi oedd hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas Waldo.
Aberteifi yw ardal genedigol Eddie Ladd. Eleni mae'n dathlu deugain mlynedd ym myd y celfyddydau. Yn ystod ei gyrfa mae wedi gweithio gyda chwmnïau theatr arloesol fel Moving Being, Volcano a Brith Gof gan berfformio, ysgrifennu a chyfrannu cerddoriaeth. Mae hefyd wedi bod yn goreograffydd i gwmnïau fel Theatr Cymru ac Arad Goch ac wedi arwain prosiectau cymunedol. Ers 1989 mae wedi datblygu ei gwaith ei hun a pherfformio mewn theatrau a lleoliadau anarferol ledled y byd.
Archwilio ei milltir sgwâr a'i chysylltiadau byd-eang mae'n gwneud yn ei gwaith. Mae ei gwaith yn cyfuno dawns, lleferydd, cerddoriaeth a thechnoleg. Fe fydd Eddie Ladd yn perfformio yn yr Eisteddfod eleni fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu 850 mlynedd o'r brifwyl.
Chwaraewr rygbi oedd Ifan Phillips gyda'r Gweilch ac i dîm dan 20 Cymru. Ond daeth ei yrfa i ben ar ôl iddo gael damwain beic modur ddifrifol ym mis Rhagfyr 2021. Ers colli ei goes mae wedi parhau i fod yn rhan o'r byd rygbi. Mae'n hyfforddi gyda'i glwb lleol yng Nghrymych ac wedi gweithio fel sylwebydd ac arbenigwr rygbi ar y cyfryngau.
Fe fuodd y Prifardd Eirwyn George farw ym mis Ebrill eleni. Fe enillodd Goron Eisteddfodau Abertawe a'r Cylch yn 1982 a Llanelwedd yn 1983 gyda dwy gerdd wedi eu lleoli yn Sir Benfro. Treuliodd rhan fwyaf o'i yrfa fel Llyfrgellydd Diwylliannol. Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau gan gynnwys ei farddoniaeth ei hun, llyfrau taith am ei fro a hiwmor Preseli, a golygodd flodeugerdd o gerddi teyrnged i Waldo. Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Llên ac fe fuodd yn casglu deunydd ar gyfer y gyfrol ‘Barddoniaeth Sir Benfro’ fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod eleni.
Bydd y pump unigolyn yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y seremoni agoriadol yn y Pafiliwn dydd Sadwrn 1 Awst. Bydd gweddw Eirwyn George, Maureen, yn derbyn yr anrhydedd ar ei ran a bydd sesiwn deyrnged iddo yn y Babell Lên dydd Mawrth 4 Awst.