Jeremy Clarkson yn datgelu bod ganddo ganser ar ei raglen deledu
Mae'r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson wedi dweud bod ganddo ganser.
Fe wnaeth o ddatgelu'r diagnosis yn ystod penodau olaf ei gyfres ddiweddaraf, Clarkson's Farm a gafodd eu rhyddhau ddydd Mercher.
Mae'n dweud ei fod wedi gwybod ers mis Mai y llynedd, ac mae'r gyfres wedi ei ffilmio rhwng 2024 a 2025.
Mae'r gyfres yn dilyn hynt a helynt Clarkson wrth iddo geisio rhedeg ffarm yng nghefn gwlad yn Sir Rhydychen.
Dydy o ddim yn datgelu pa fath o ganser sydd ganddo. Er hynny yn y rhaglen mae'n dweud bod y canser yn "ffyrnig" a bod meddygon wedi torri darn o'i brostad fel rhan o'i driniaeth feddygol.
Fe wnaeth y cyn-gyflwynydd Top Gear rybuddio ar ei gyfrif Instagram bod y ddwy bennod ddiweddaraf yn "anodd i'w gwylio".
Mae Clarkson i'w weld yn rhoi'r newyddion am ei ddiagnosis i Kaleb Cooper a Charlie Ireland sydd yn ymddangos yn gyson yn Clarkson's Farm.
"Fe wnes i ddiflannu'r wythnos o'r blaen a chael biopsi a chanser ydy o ac mae o'n ffyrnig ond mae'n gynnar iawn," meddai Clarkson.
"Dwi'n gaddo y byddai'n iawn", mae'n dweud wrth y ddau ddyn. Dywedodd hefyd y bydd yn cael seibiant "am gyfnod bach".
Mae hefyd yn dweud yn y rhaglen nad ydy o yn gwybod "beth sydd yn mynd i ddigwydd".
"Os yw popeth yn mynd yn dda fe welai chi yng nghyfres 6. Ac os nad ydy o, welai chi ddim. Cymerwch ofal pawb".
Ddwy flynedd yn ôl fe gafodd o lawdriniaeth ar ei galon. Mewn colofn yn The Sunday Times, fe ddywedodd yn 2024 fod un o'i rydwelïau wedi'i "rhwystro'n llwyr".