Adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd angen ‘gwelliant sylweddol’

Ysbyty Glan Clwyd

Mae adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei dynodi yn wasanaeth sydd angen ei wella’n sylweddol yn dilyn arolygiad dirybudd.

Fe gynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru arolygiad o’r adran ym mis Mai 2026.

Dywedodd yr arolygiaeth fod pryderon wedi eu nodi ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg yn yr adran.

Mae’r penderfyniad yn rhan o broses “gwasanaeth sy’n peri pryder” AGIC.

Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn derbyn y casgliadau "yn llwyr". 

Mae'r adran yn y gorffennol wedi bod dan drefniadau gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol rhwng mis Mai 2022 a mis Awst 2024.

Angen gwelliannau 'clir a brys' 

Yn ôl AGIC, mae’r dynodiad diweddaraf yn dangos nad yw’r gwelliannau a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw wedi cael eu cynnal.

Dywedodd yr arolygiaeth fod angen gwelliannau “clir a brys” er mwyn sicrhau bod gofal yn cael ei reoli’n ddiogel ac yn effeithiol.

Ond dywedodd AGIC y dylai cleifion sydd angen gofal brys barhau i ddefnyddio’r adran.

Bydd adroddiad llawn yr arolygiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Rydym wedi dynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol yn dilyn pryderon ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg.

“Mae'r dynodiad hwn yn golygu ein bod yn disgwyl gwelliant clir a brys, wedi'i gefnogi gan drefniadau goruchwylio ac atebolrwydd cryfach.

“Er ein bod yn cydnabod y pwysau y mae adrannau achosion brys yn eu hwynebu, mae'n rhaid i wasanaethau roi trefniadau effeithiol ar waith i reoli'r pwysau hynny yn ddiogel.

“Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn agos a byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau llawn ym mis Medi.”

Ymddiheuro

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod y bwrdd iechyd yn derbyn y canfyddiadau “yn llwyr”.

“Mae'r materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant, diogelwch cleifion, gorlenwi a diogelwch a phrofiad cleifion sy'n aros i dderbyn gofal,” meddai.

“Rydym yn ymddiheuro, mewn rhai meysydd, nad yw safon y gofal wedi bod cystal ag y dylai fod i'n cleifion.”

Dywedodd fod “camau gweithredu uniongyrchol ar waith” eisoes, gan gynnwys lleihau gorlenwi, atgyfnerthu diogelwch cleifion, gwella arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn yr adran, a sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel o'r adeg y byddant yn cyrraedd.

Ychwanegodd y bydd y bwrdd iechyd yr wythnos nesaf yn ystyried cynlluniau i atgyfnerthu staffio mewn adrannau achosion brys ar draws Gogledd Cymru.

“Rydym yn croesawu craffu gan AGIC a byddwn yn parhau i adrodd yn agored ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud,” meddai.

“Rydym yn canolbwyntio ar gynnig gofal diogel, prydlon ac o ansawdd uchel i bobl Gogledd Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.