'Rhyfeddol': Roced Artemis II wedi gadael orbit y Ddaear
Mae gofodwyr wedi disgrifio gweld golygfa "ryfeddol" wrth i roced Artemis II adael orbit y Ddaear ar ei thaith i'r Lleuad.
Dyma'r tro cyntaf i ofodwyr adael orbit y ddaear ers 1972, dros 50 mlynedd yn ôl.
Y nod yw bod y daith NASA yn mynd â'r criw ymhellach o'r Ddaear nag ar unrhyw un o'r blaen.
Roedd y pedwar gofodwr wedi cylchdroi'r Ddaear am tua 25 awr cyn anelu tuag at y Lleuad.
Ni fydd y criw yn glanio ar y Lleuad ei hun yn ystod y daith. Y bwriad yw teithio heibio'r Lleuad sydd 244,000 o filltiroedd i ffwrdd - gan hedfan 5,000 o filltiroedd tu hwnt i hynny.
Dywedodd y gofodwr o Ganada Jeremy Hansen fod y criw wedi bod wrth ffenestri'r roced er mwyn gweld yr olygfa "rhyfeddol" wrth iddyn nhw deithio o amgylch y Ddaear.
"Mae dynoliaeth wedi dangos unwaith eto beth mae'n gallu gwneud, ac eich gobeithion chi ar gyfer y dyfodol sy'n ein cario ar gyfer y daith o gwmpas y Lleuad," meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/NASA/status/2039908597748940872
Bydd disgwyl i'r llong ofod deithio heibio'r Lleuad ddydd Llun cyn troi yn ôl tuag at y Ddaear.
Y record ar gyfer y daith ofod bellaf yw tua 248,000 milltir, a gafodd ei chwblhau gan griw o ofodwyr Apollo 13 yn 1970, oedd yn daith llawn problemau technegol.
Wrth i ofodwyr Artemis II basio tua 4,600 milltir y tu hwnt i ochr bellaf y Lleuad, bydd modiwl Orion yn colli cyswllt â'r Ddaear am tua 50 munud.
Er na fydd y gofodwyr yn glanio ar y lloeren, mae taith Artemis II yn paratoi'r ffordd ar gyfer glanio ar y Lleuad yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gosod sylfaen i anfon criw i blaned Mawrth meddai NASA.
Gobaith NASA yw bydd gofodwyr yn dychwelyd i'r Lleuad cyn 2028, tra bod Tsieina yn anelu i wneud hynny erbyn 2030.