Rhyddhau dyn o'r ddalfa mewn cysylltiad â diflaniad Nancy Guthrie

Llun o un o'r herwgipwyr posib- Achos Nancy Guthrie

Mae dyn oedd  yn y ddalfa mewn cysylltiad ag diflaniad Nancy Guthrie, mam y cyflwynydd newyddion Americanaidd, Savannah Guthrie, wedi cael ei ryddhau.

Cafodd Guthrie sydd yn 84 oed ei herwgipio o'i chartref fwy nag wythnos yn ôl. Mae ei thŷ yn Rio Rico, sydd i'r de o Tuscon yn Arizona.

Ers hynny mae ei theulu wedi bod yn apelio am wybodaeth. Mae'r heddlu hefyd wedi bod yn chwilio amdani.

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio cartref yr unigolyn.

Ar ôl ei ryddhau, dywedodd y dyn, a enwyd yn Carlos, wrth ohebwyr y tu allan i'w gartref nad oedd yn gwybod pwy oedd Nancy Guthrie. 

"Dydw i ddim yn dilyn y newyddion," meddai.

"Gobeithio y byddan nhw'n dal yr un dan amheuaeth, oherwydd nid fi yw e," meddai Carlos, yn ôl CBS.

Ond mae person sydd yn dweud mai hi yw mam yng nghyfraith yr unigolyn oedd yn y ddalfa wedi dweud wrth CBS nad oedd o unrhywbeth i wneud gyda'r achos.

"Maen nhw jest yn meddiannu fy nghartref i," meddai.  

Daw'r newyddion oriau ar ôl i'r FBI rhyddhau delweddau a fideo o berson oedd yn gwisgo masg ar stepan drws Nancy Guthrie y noson wnaeth hi ddiflannu. Yn ôl yr heddlu roedd yr unigolyn yn cario arf.

Mae Savannah Guthrie wedi rhannu'r fideo newydd ar ei chyfri Instagram. Mewn neges mae'n dweud: "Mae rhywun allan yn fanna yn adnabod y person yma. Rydyn ni yn dal i gredu ei bod hi allan yna. Dewch a hi adref."

Negeseuonyn mynnu arian 

Mae'r awdurdodau yn ymchwilio cyfres o negeseuon sydd yn mynnu arian. Fe allai'r rhain fod wedi dod gan ei herwgipwyr.

Mae teulu Nancy Guthrie wedi rhyddhau cyfres o fideos yn apelio ar y cyhoedd i'w helpu i ddod o hyd i'w mam.

Maen nhw wedi rhybuddio ei bod hi mewn iechyd bregus a'i bod yn "byw mewn poen cyson".

"Mae hi heb unrhyw feddyginiaeth. Mae hi ei angen o i oroesi. Mae ei angen o fel nad yw hi'n dioddef," meddai Savannah Guthrie ar Instagram. 

Mae'r heddlu hefyd wedi dweud eu bod wedi darganfod gwaed yng nghyntedd ei thŷ a bod profion wedi cadarnhau mai ei gwaed hi ydy o.

Mae'r FBI yn cynnig rhodd ariannol o $50,000 (£36,000) am unrhyw wybodaeth. 

Llun: FBI 


 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.