Rhybudd y gallai Llafur gael ei 'llyncu gan anhrefn' wrth herio awdurdod Keir Starmer
Mae na beryg y gallai'r Blaid Llafur gael ei “llyncu” gan anhrefn pe bai cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth i ddisodli Syr Keir Starmer yn cael ei sbarduno, yn ôl rhybudd gan un o’i gefnogwyr yn y Cabinet.
Mae’r Prif Weinidog dan bwysau dwys o fewn ei blaid ei hun, ar ôl cyfres o gamau gwleidyddol ysgytwol gan rai o aelodau amlycaf ei blaid ddydd Iau.
Mae Andy Burnham wedi gweld cyfle i ddychwelyd i San Steffan wedi i aelod seneddol o'r blaid gamu i lawr yn etholaeth Makerfield, gan sbarduno isetholiad y mae Maer Manceinion yn gobeithio ei hennill.
Cafodd Mr Burnham ei rwystro gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol rhag sefyll fel ymgeisydd Llafur yn is-etholiad Gorton a Denton.
Dywedodd ffynhonnell yn y Pwyllgor Gwaith nad yw'n "glir eto" a fydd y pwyllgor yn caniatáu i Mr Burnham sefyll yn is-etholiad Makerfield.
Os yw Mr Burnham yn awyddus i gynnig ei hun i gymryd lle Syr Keir fel arweinydd y Blaid Lafur, byddai angen iddo yn gyntaf ennill is-etholiad a sicrhau sedd fel AS mewn pryd i allu ymuno ag unrhyw gystadleuaeth arweinyddiaeth a allai gael ei sbarduno.
Yn y cyfamser, ymddiswyddodd Wes Streeting fel ysgrifennydd iechyd, ond nid yw wedi cyhoeddi her am yr arweinyddiaeth yn syth, gan alw yn lle hynny am “y rhestr orau posiblo ymgeiswyr” i gael eu cynnwys mewn unrhyw ymgais am y brif swydd yn gyntaf.
Fe wnaeth y cyn-ddirprwy brif weinidog Angela Rayner ddatgelu ei bod yr ymchwiliad i'w threfniadau trethi wedi dod i ben hefyd, gan adael y drws ar agor iddi hi ymuno yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Trafferthion etholiadol
Wrth siarad fore dydd Gwener, rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Tai Steve Reed ei gydweithwyr rhag sbarduno cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth yn erbyn Syr Keir, gan ddweud y byddai'r blaid yn dilyn y Ceidwadwyr wrth ddioddef mwy o drafferthion etholiadol pe bai un yn digwydd.
Dywedodd wrth Sky News: “Does dim rhaid i chi ddychmygu beth fyddai'n digwydd, oherwydd mae'n rhaid i ni edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y Ceidwadwyr.
“Rwy'n credu dros yr wyth mlynedd rhwng 2016 a 2024 bod gennym naw ysgrifennydd addysg, saith canghellor y trysorlys, a phump prif weinidog, ac arweiniodd at eu canlyniad etholiad gwaethaf mewn 200 mlynedd.
“Rydym mewn grym. Fe’n hanfonwyd yma gan y cyhoedd ym Mhrydain i gyflawni newid. Fe wnaethom addo’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7, y chwarter cyntaf eleni. Rydym wedi gwneud hynny.
“Fe wnaethom addo torri rhestrau aros y GIG. Ddoe gwelsom y cwymp misol mwyaf ers 18 mlynedd.
“Pam fydde ni yn taflu hynny i ffwrdd i ymgysylltu â’r anhrefn a lyncodd y Ceidwadwyr?”
Treuliodd y Prif Weinidog fore Gwener yn ymweld â gorsaf heddlu yn ne Llundain, gan gyfarfod â Maer Llundain, Syr Sadiq Khan, a phennaeth Heddlu'r Met Syr Mark Rowley cyn penwythnos o brotestiadau yn Llundain gan ymgyrchwyr asgell dde.