Penodi'r fenyw gyntaf i arwain Cyngor Sir Penfro

Tessa Hodgson

Mae Cyngor Sir Penfro wedi penodi'r fenyw gyntaf i arwain yr awdurdod.

Cafodd Tessa Hodgson, sy'n cynrychioli ward Llandyfái, ei hethol i'r swydd yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ddydd Gwener.

Roedd tair menyw wedi ceisio am y rôl - Y Cynghorydd Tessa Hodgson, y Cynghorydd Anji Tinley a'r Cynghorydd Di Clements.

Fe enillodd y Cynghorydd Hodgson yr ail rownd o bleidleisio ar gyfer y swydd o un pleidlais, gyda 30 o bleidleisiau o’i phlaid hi a 29 o blaid y Cynghorydd Tinley.

Yn dilyn ei phenodiad, dywedodd y Cynghorydd Hodgson na fydd newidiadau i'w chabinet, sydd yn glymblaid enfys.

Ond dywedodd y bydd angen penodi aelod cabinet newydd dros addysg, ar ôl i'r Cynghorydd Guy Woodham ildio'r awennau.

Dywedodd y Cynghorydd Hodgson bod cael ei hethol yn arweinydd y cyngor yn "anrhydedd fawr". 

"Mae’n foment bwysig i’r cyngor ethol y fenyw gyntaf i’r swydd hon, ond nawr mae’r gwaith caled yn dechrau," meddai.

"Rwy’n barod i weithio gyda phawb ar draws y siambr er budd pob preswylydd a chymuned yn Sir Benfro, ac rwy’n edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau."

Cafodd y Cynghorydd Hodgson ei hethol gyntaf yn 2012, ac nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw grŵp ar y cyngor.

Yn 2017, cafodd ei phenodi’n Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Diogelu, cyn cael ei phenodi'n ddiweddarach fel Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu Oedolion.

Gyda chefndir mewn marchnata a busnes, mae’r Cynghorydd Hodgson wedi rhedeg sawl menter yn y sector lletygarwch a thwristiaeth.

Yn ystod y cyfarfod ddydd Gwener, fe wnaeth hi roi teyrnged i'w diweddar dad, Mike Stoddart, a oedd hefyd yn gynghorydd.

Daw ei phenodiad ar ôl i'r Cynghorydd Jon Harvey gamu i lawr o'i swydd fel arweinydd y cyngor ar ddechrau'r mis.

Dywedodd ar y pryd ei fod yn credu y dylai'r Cynghorydd Hodgson ei olynu.

 
 
 
 
 
 


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.