Y Cymry cyfoethocaf: Cyhoeddi rhestr gyfoeth The Sunday Times

Syr Michael Moritz a Harriet Heyman
Syr Michael Moritz a Harriet Heyman

Mae The Sunday Times wedi cyhoeddi ei rhestr flynyddol o bobl gyfoethocaf y DU, sy'n cynnwys nifer o Gymry.

Mae'r rhestr yn nodi'r 350 o bobl a theuluoedd cyfoethocaf Prydain, ar sail amcangyfrif o’u hasedau gan gynnwys eiddo, tir, busnesau a chyfranddaliadau.

Ar frig y rhestr eleni mae Sanjay a Dheeraj Hinduja a’u teulu, gyda chyfoeth o £38 biliwn.

Mae’r teulu y tu ôl i’r Hinduja Group, cwmni rhyngwladol sydd â buddiannau mewn meysydd fel cerbydau, bancio, olew, technoleg ac eiddo.

Yn ôl rhifyn arbennig 2026 o The Sunday Times Magazine, mae’r swm lleiaf sydd ei angen i gael lle ar y rhestr wedi gostwng eleni i £340 miliwn.

Dyma'r pum Cymro cyfoethocaf ar y rhestr:

1. Syr Michael Moritz a Harriet Heyman - £5.481 biliwn

Image
Michael Moritz
Syr Michael Moritz yw'r Cymro cyfoethocaf

Yn safle 34 ar y rhestr gyfan, ac ar frig rhestr gyfoethog Cymru, mae Syr Michael Moritz a’i wraig Harriet Heyman, gyda chyfoeth o £5.481 biliwn.

Mae eu cyfoeth wedi cynyddu £1.046 biliwn ers i restr 2025 gael ei chyhoeddi.

Cafodd Syr Michael ei eni yng Nghaerdydd. Fe wnaeth ei ffortiwn drwy’r cwmni buddsoddi Sequoia Capital, sydd wedi buddsoddi mewn rhai o gwmnïau technoleg mwyaf adnabyddus y byd, fel Google, PayPal, YouTube a LinkedIn.

Mae’r cwpl hefyd yn adnabyddus am eu gwaith elusennol drwy’r sefydliad Crankstart.

2. Simon Nixon - £2.05 biliwn

Image
Simon Nixon
Mae cyfoeth Simon Nixon wedi cynyddu £750m ers rhestr 2025

Simon Nixon yw’r ail enw o Gymru ar y rhestr, gyda chyfoeth o £2.05 biliwn.

Mae Mr Nixon wedi codi o safle 86 ar restr 2025 i safle 75. 

Mae’r dyn busnes o Sir y Fflint yn fwyaf adnabyddus fel un o sylfaenwyr y wefan gymharu prisiau Moneysupermarket. 

Fe lansiodd y busnes yn 1993, cyn i’r wefan dyfu’n un o’r enwau mwyaf adnabyddus ym marchnad cymharu prisiau’r DU.

3. Douglas Perkins a’r Fonesig Mary Perkins - £1.409 biliwn

Image
Douglas Perkins
Mae Douglas Perkins a’i wraig, y Fonesig Mary Perkins, yn adnabyddus am sefydlu Specsavers.

Douglas Perkins a’r Fonesig Mary Perkins yw'r trydydd yng Nghymru, gyda chyfoeth o £1.409 biliwn.

Mae eu cyfoeth wedi gostwng £130 miliwn ers i restr 2025 gael ei chyhoeddi.

Mae’r cwpl yn adnabyddus am sefydlu’r gadwyn optegwyr Specsavers. Cafodd Douglas Perkins ei eni yn Llanelli, ac fe wnaeth y ddau ddechrau’r busnes o fwrdd tenis bwrdd yn eu hystafell wely sbâr cyn iddo dyfu’n gwmni rhyngwladol.

4. Syr Terry Matthews - £1.33 biliwn

Image
Terry Matthews
Syr Terry Matthews, sylfaenydd y cwmni telathrebu Mitel.

Gyda chyfoeth o £1.33 biliwn, Syr Terry Matthews yw’r pedwerydd enw uchaf o Gymru ar y rhestr.

Mae Syr Terry, sy’n dod o Gasnewydd, yn un o enwau mwyaf adnabyddus byd technoleg a busnes Cymru. 

Fe wnaeth ei ffortiwn ym maes telathrebu, yn bennaf drwy gwmnïau fel Mitel a Newbridge Networks.

Yn ystod ei yrfa, mae Syr Terry wedi sefydlu neu gefnogi nifer fawr o gwmnïau technoleg, ac mae’n cael ei ystyried yn un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae hefyd yn adnabyddus am ei gysylltiad â Chyrchfan y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

5. David Sullivan a'i deulu - £1.1 biliwn

Image
David Sullivan
David Sullivan, un o gyd-berchnogion West Ham United.

David Sullivan a’i deulu sydd yn y pumed safle yng Nghymru, ac yn safle 149 ar y rhestr gyfan.

Mae cyfoeth Mr Sullivan, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, wedi gostwng £8 miliwn ers i restr 2025 gael ei chyhoeddi.

Mae ei gyfoeth yn gysylltiedig ag eiddo, pêl-droed a’r cyfryngau. Mae hefyd yn adnabyddus fel un o berchnogion clwb pêl-droed West Ham United.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.