Rhieni o Gaerdydd yn diolch i’r GIG am achub bywyd eu babi gyda chalon artiffisial

Newyddion S4C

Rhieni o Gaerdydd yn diolch i’r GIG am achub bywyd eu babi gyda chalon artiffisial

Mae rhieni o Gaerdydd wedi diolch i’r Gwasanaeth Iechyd wedi i’w babi ifanc dderbyn dyfais arbenigol a phrin i achub ei fywyd. 

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Dylan a Catrin Green bledio am “galon Berlin” i’w babi bach Macs. 

Roedd Macs wedi dioddef dau ataliad ar ei galon ar ôl mynd i’r ysbyty yng Nghaerdydd gyda feirws. 

Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, ond roedd gofid na fyddai’n goroesi heb iddo dderbyn y pwmp prin ac arbenigol sydd yn gwneud gwaith y galon. 

Ond ddiwedd Gorffennaf, cafodd Macs ei gludo i Ysbyty Freeman yn Newcastle. Ar ôl cyfres o lawdriniaethau cymhleth, mae dyfais calon Berlin, math o ddyfais cymorth fentriglaidd (VAD) bellach wedi ei osod yn ei gorff. 

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C ar safle’r ysbyty yn Newcastle, dywedodd tad Macs, Dylan, bod y teulu yn teimlo rhyddhad enfawr.

“Ni mor falch bod e ar y Berlin heart," meddai.

“Mae’n meddwl bod e gallu dod off rhai o’r cyffuriau sydd wedi bod yn sedateo fe.

“Ers ‘ny mae e’n fabi hollol wahanol…

“Mae e’n gwenu, mae e’n ymateb i ni. O’r blaen, roedd e just yn fabi ar y gwely.”

Aros am galon go iawn

Disgrifiodd ei fam Catrin y profiad fel “cael ein babi nôl”.

Mae’r driniaeth o osod dyfais cymorth fentriglaidd yn brin iawn. 

Yn ôl ffigyrau diweddaraf, 17 plentyn drwy’r Deyrnas Unedig dderbyniodd ddyfais o’r fath rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. 

Er gwaetha’r rhyddhad fod Macs bellach wedi gadael yr uned gofal dwys ac mewn cyflwr sefydlog, dyw’r pryder ddim ar ben i’r teulu.

Esboniodd Catrin: “Ni yn aros nawr am galon go iawn i ddod lan iddo fe.

“Maen nhw 'di dweud wrthon ni... mae'n debygol o orfod aros deunaw mis am galon. 

“Alle fe fod yn ddwy flynedd, alle fod yn fwy na 'na. Ond hefyd fe allai calon droi lan yfory.

“Os bydden ni jesd yn aros a gwbod bod e'n byw mewn yn yr ysbyty bydde na'n fine, ond mae lot o risks o fod ar y Berlin heart a lot o ffactorau sy'n gallu effeithio arno fe. 

"So nawr ni jesd yn gobeithio bod e mynd i fod yn sefydlog ar y Berlin heart.”

Image
Macs Green

Eu gobaith yw annog ac ysbrydoli eraill i drafod rhoi organau plant. 

Mae'n bwnc y maen nhw’n cydnabod sydd yn anodd, ond mae yna angen i'w ddiwallu i helpu plant bregus fel eu mab. 

Maen nhw hefyd am ddiolch i’r gwasanaeth iechyd a staff yn yr ysbyty yn ogystal â ffrindiau, perthnasau ac eraill sydd wedi eu cefnogi a chyfrannu at dudalen godi arian sefydlodd ffrindiau wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Dylan: “Ni mor ddiolchgar i bob un sydd wedi rhannu stori Macs ac i’r ysbyty am gymryd e mewn.

“Mae lot o bobl wedi helpu ni mas am dros 10 wythnos nawr.

“Mae lot wedi helpu ni, wedi rhoi arian hefyd  ac helpu ni gynnal bywyd fan hyn ac i’r bois nôl yng Nghaerdydd hefyd. 

“Ni mor ddiolchgar i bawb am roi mor hael.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.