Rheithgor i ystyried tystiolaeth mewn cwest i farwolaeth myfyrwraig o lid yr ymennydd

Megan Draper

Mae crwner wedi penderfynu y bydd rheithgor yn ystyried tystiolaeth cwest i farwolaeth myfyrwraig 18 oed o dde Cymru a fu farw o lid yr ymennydd yn ystod ei thymor cyntaf mewn prifysgol.

Bu farw Megan Draper o Bont-y-pŵl ar 29 Hydref 2025 ar ôl cael ei tharo'n wael wrth astudio ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bournemouth.

Mewn gwrandawiad cyn cwest yn Bournemouth ddydd Llun, dywedodd y crwner Brendan Allen y byddai rheithgor yn clywed y cwest llawn, gan fod Ms Draper wedi marw o glefyd y mae'n rhaid rhoi gwybod amdano i'r awdurdodau.

Dywedodd y crwner: “Yn ôl y gyfraith, os oes rheswm i amau ​​bod rhywun wedi marw o glefyd y mae'n rhaid rhoi gwybod amdano, yna mae'n orfodol; ac rwyf wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid i'r cwest hwn gael ei glywed o flaen rheithgor.”

Dywedodd Mr Allen y byddai'r cwest llawn yn ymdrin â chyswllt Ms Draper â gwasanaeth NHS 111, y broses 'triage' yn Ysbyty Frenhinol Bournemouth, y driniaeth a gafodd y tu allan i oriau arferol, yn ogystal â’i symud i Ysbyty Southmead ym Mryste.

Ychwanegodd y crwner y byddai’r cwest yn ystyried a oedd “marwolaeth Megan yn rhywbeth y gellid bod wedi’i atal”.

Gofynnodd Mr Allen i Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Prifysgol Dorset - sy’n rhedeg gwasanaeth argyfwng NHS 111 yn yr ardal - ddarparu datganiad yn ymdrin â galwad Ms Draper a’r trefniadau ar gyfer ymdrin â galwadau.

Rhannodd Mr Allen ei gydymdeimlad â theulu Ms Draper, gan ohirio'r cwest ac oedi’r cwest tan 19 Gorffennaf 2027.

Llun: Megan Draper, llun teulu.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.