'Rhaid i gadeirydd Undeb Rygbi Cymru fynd’ medd dynes fusnes flaenllaw
Mae un o fenywod busnes mwyaf llwyddiannus Cymru wedi galw ar gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, i ymddiswyddo oherwydd yr anghydfod am y gêm yng Nghymru.
Fe wnaeth Hayley Parsons, sy’n gyn-aelod o fwrdd Rygbi Caerdydd, ymosod ar yr hyn a ddisgrifiodd fel y ffordd "ddi-asgwrn cefn" a "dirgel" y mae Undeb Rygbi Cymru yn trafod cytundeb a allai gwtogi nifer timau proffesiynol Cymru.
Dywedodd Parsons, sy’n sylfaenydd cwmni cymharu prisiau GoCompare, ei bod yn "broblem fawr" nad oes gan y ddau berson ar frig y corff llywodraethu gefndir mewn rygbi.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn deall y safbwyntiau cryf a fynegwyd, ond bod rygbi Cymru yn mynd trwy gyfnod angenrheidiol ond anodd o newid.
Mae Parsons, a werthodd ei chyfran yn GoCompare am bron i £44 miliwn, wedi ysgrifennu at glybiau ledled Cymru yn galw arnyn nhw i weithredu'n gyflym i sicrhau newid.
Dywedodd fod y gamp mewn "cyflwr o argyfwng difrifol".
"Mae'n rhyfel cartref ac ni allwn barhau fel hyn mewn gwirionedd," meddai.
"Rwy'n credu bod y ffordd y mae Undeb Rygbi Cymru wedi mynd ati i frocera'r fargen hon gyda Y11 yn wirioneddol erchyll," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'r diffyg cyfathrebu, ymgysylltiad, tryloywder a dynoliaeth gyda'r holl randdeiliaid yn jôc.
"Ni allwch redeg busnes llwyddiannus pan nad ydych chi'n deall eich cynnyrch, y rygbi, ac yn amharchu eich ased gorau, eich pobl."
Ansicrwydd
Mae Undeb Rygbi Cymru, dan arweinyddiaeth y prif weithredwr Abi Tierney a Collier-Keywood, eisiau cwtogi nifer y clybiau proffesiynol yng Nghymru o bedwar rhanbarth i dri fel rhan o ailwampio mawr o'r gêm.
Mae nhw eisiau cael un rhanbarth yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd ac un yn y gorllewin, gyda'r corff llywodraethol yn credu bod y sylfaen chwaraewyr a'r cyllid wedi'u gwasgaru'n rhy denau ar hyn o bryd.
Mae ansicrwydd ynghylch dyfodol y Gweilch ar ôl iddo ddod i'r amlwg fod y perchnogion, Y11 Media and Sport, yw'r cynnig mae URC eisiau i gymryd rheolaeth o Gaerdydd.
Hyd yn hyn, dim ond tan ddiwedd y tymor nesaf y mae dyfodol rhanbarth y Gweilch wedi'i addo, gan greu pryderon mai dyma'r rhanbarth fydd yn diflannu.
Byddai'n gadael Caerdydd, y Dreigiau yng Nghasnewydd a'r Scarlets yn Llanelli fel y tri chlwb proffesiynol sy'n weddill.
Mae arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi galw ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru i ymddiswyddo oherwydd y mater ac wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol.
Mae disgwyl hefyd y bydd cynrychiolwyr rhai clybiau ar lawr gwlad, trwy gyfarfod cyffredinol eithriadol, yn ceisio disodli'r cadeirydd unwaith y bydd y Chwe Gwlad drosodd.
Llun: Asiantaeth Huw Evans