Cyhuddo bachgen 13 oed o ddau achos o geisio llofruddio mewn ysgol yn Llundain
Mae bachgen 13 oed wedi ei gyhuddo o ddau achos o geisio llofruddio wedi i fechgyn eraill ddioddef anafiadau difrifol ar ôl cael eu trywanu mewn ysgol yn Llundain.
Cafodd dau o fechgyn 12 ac 13 oed eu hanafu wedi’r digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Kingsbury yng ngogledd-orllewin Llundain ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu’r Met fod y bachgen 13 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, hefyd wedi ei gyhuddo o fod â chyllell ar safle ysgol.
Cafodd ei gyhuddo o chwistrellu hylif sy’n cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â phryfed mewn wyneb trydydd plentyn yn ogystal.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Ieuenctid Westminster fore ddydd Iau. Y gred yw ei fod yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Kingsbury yn Brent.
Dywedodd Helen Flanagan, o’r adran gwrthderfysgaeth yn Llundain: “Mae’r cyhuddiadau yn erbyn y bachgen ifanc yma yn ddifrifol iawn.
"Rydym yn parhau i gefnogi’r dioddefwyr a’u teuluoedd, yn ogystal â chymuned ehangach yr ysgol.”
Dywedodd bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau ar hyn o bryd ac mae disgwyl i fwy o swyddogion yr heddlu fod yn ardal Brent am gyfnod.
Mae llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau fod yna ddigon o dystiolaeth i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn y bachgen.
Roedden nhw am atgoffa pobl bod ganddo hawl i achos llys teg gan annog unigolion i beidio â rhannu gwybodaeth all effeithio ar hynny.
Llun: Ben Whitley/PA Wire
