Carcharu dyn o Sir Gâr am gipio a rhoi cyffuriau i ferch 15 oed

Richard Knight

Mae dyn 73 oed o Sir Gâr wedi ei garcharu am dair blynedd a naw mis wedi iddo gyfaddef iddo gipio merch yn ei harddegau, creu delweddau anweddus o blant, a dosbarthu cyffuriau.

Fe newidiodd Richard Knight o Bentywyn ei ble cyn dechrau ei achos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad yn oriau mân y bore ar ddydd Llun 11 Ebrill 2022 gan fam bryderus, a oedd yn poeni am les ei merch 15 oed. 

Y noson honno, roedd y ferch wedi ffonio ei mam yn llawn pryder, gan ddweud ei bod hi eisiau dod adref ar ôl cymryd cyffuriau yn nhŷ Knight.

Aeth yr heddlu i'r cyfeiriad yn syth ond nid oedd neb yno. 

Gyda phryder yn cynyddu am y ferch ifanc, fe dorrodd swyddogion i mewn i'r tŷ, cyn dod o hyd i blanhigion canabis.

Cafodd swyddogion wybodaeth fod Knight wedi defnyddio ei gar i hebrwng y ferch adref i'w chartref ei hun. 

Daeth Knight yn ôl adref yn ddiweddarach lle cafodd ei arestio gan swyddogion ar amheuaeth o yfed a gyrru, bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a chyflenwi canabis i'r ferch ifanc.

Cyfweliad heddlu

Yn ystod ei chyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y ddioddefwraig wrth swyddogion ei bod wedi cytuno i gyfarfod â Knight a'i bod yn credu ei fod yn gwybod ei bod hi'n 15 oed.

Roedd hefyd yn gwybod na fyddai hi'n dweud wrth ei mam i ble roedd hi'n mynd.

Dywedodd wrth swyddogion am yr amrywiaeth o gyffuriau a roddwyd iddi, a bod rhai wedi'u rhoi iddi mewn losin.

Daeth yr heddlu o hyd i luniau CCTV o Knight mewn siop leol yn prynu losin y prynhawn hwnnw, cyn cyfarfod y ferch yn ei harddegau a'i gyrru i'w dŷ.

Cafodd Knight ei arestio eto ym mis Rhagfyr 2022.

Daeth yr heddlu o hyd i 1101 o ddelweddau anghyfreithlon ar ei ddyfeisiadau, gyda 122 ymysg y categori mwyaf difrifol, sef categori A.

Roedd swyddogion o'r farn fod y canabis yn ei gartref yn werth rhwng £6,000 a £20,000. 

Pledio

Plediodd Knight yn euog yn flaenorol i nifer o honiadau yn ei erbyn yn ymwneud â'r cyffuriau a'r delweddau anweddus o blant, ond roedd wedi parhau i wadu ei fod wedi cipio'r ferch ifanc.

Dywedodd y swyddog a oedd yn ymchwilio i'r achos, y Ditectif Gwnstabl Jon Gouldson: “Roedd hwn yn achos difrifol iawn yn ymwneud â dyn a oedd wedi meithrin perthynas amhriodol â merch ifanc ac agored i niwed er mwyn ei foddhad ei hun.

“Does dim amheuaeth bod Richard Kight yn gwybod bod cymryd y ferch 15 oed hon i'w gartref yn anghywir ac yn y pen draw yn gyfystyr â herwgipio plentyn.

“Mae cymryd plentyn heb ganiatâd rhiant yn drosedd. Does dim mannau llwyd yma.

“Mae'n anghyfreithlon cymryd, neu gadw, plentyn o dan 16 oed heb ganiatâd ei riant neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drostynt."

Ychwanegodd: “Rydym yn croesawu'r ddedfrydu heddiw ac eisiau bod yn glir bod trefnu i gymryd plentyn heb ganiatâd rhiant, neu greu/meddu ar ddelweddau anweddus o blant yn anghyfreithlon ac yn arwain at ganlyniadau difrifol."

Llun: Heddlu Dyfed-Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.