Galw am ddadl yn San Steffan wedi dryswch am statws pêl-droediwr o Gymru
Mae aelod seneddol o Gymru wedi galw am ddadl yn San Steffan i sicrhau na fydd y Swyddfa Gartref yn atal pêl-droedwyr yn annheg rhag cynrychioli eu gwlad.
Cafodd y mater ei godi gan AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Iau ar ôl i bêl-droediwr ifanc o Gymru gael gwybod ei fod yn bosib na fydd yn cael chwarae dros ei wlad, a hynny ar ôl i'w gais am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod.
Cafodd Enzo Romano, 16 oed, ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen. Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Newyddion S4C dorri'r newyddion fod y Swyddfa Gartref wedi gwrthod ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig am yr eildro.
Fe wnaeth y Swyddfa Gartref gadarnhau fod yr ail gais wedi ei wrthod, ond pan gysylltodd Newyddion S4C gyda nhw eto yn ddiweddarach fe ddywedodd llefarydd eu bod wedi "cytuno i ail agor yr achos er mwyn ystyried a oes tystiolaeth newydd gan y teulu i'w gyflwyno."
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Iau, dywedodd Ann Davies AS: "Mae Enzo Romano yn bêl-droediwr ifanc talentog ac mae eisoes wedi chwarae i dîm ieuenctid Cymru, pan allai fod wedi dewis yr Eidal neu Sbaen, ond mae wedi dewis Cymru..
"Ond er gwaethaf ei dystysgrif geni yn profi ei fod wedi’i eni yng Nghaerdydd, mae ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi’i wrthod am yr ail dro. Hebddi, wrth gwrs, ni all ddatblygu ei yrfa bêl-droed a chwarae yng Nghwpan y Byd.
"A wnaiff Arweinydd y Tŷ ganiatáu dadl i sicrhau na all y Swyddfa Gartref atal talent fel Enzo yn annheg – ac eraill rwy’n siŵr ledled y DU – sydd eisiau chwarae pêl-droed dros y wlad y cafodd ei eni ynddi, ac y mae’n amlwg yn ei charu?"
Wrth ymateb, dywedodd arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Alan Campbell: "Rwyf wir yn dymuno’n dda i’r dyn ifanc. Cyn i ni gael dadl, os bydd yr Anrhydeddus Foneddiges yn codi manylion yr achos hwn gyda mi, byddaf yn ei drafod gyda’r adran briodol ac yn gweld a allwn ni wneud rhywfaint o gynnydd."
'Cyfnod anodd'
Ar ôl i'w stori gyrraedd y penawdau, dywedodd Enzo fod y negeseuon o gefnogaeth yn gwneud iddo deimlo'n "fwy Cymreig."
"Diolch i bawb am y gefnogaeth gyda'r cais am ddinasyddiaeth," meddai wrth siarad â Newyddion S4C yr wythnos ddiwethaf.
"Dwi mor ddiolchgar am y negeseuon a'r gefnogaeth. Mae'n gwneud i mi deimlo'n fwy Cymreig nag yr oeddwn o'r blaen.
"Mae hwn yn gyfnod anodd i ddod trwyddo. Jyst oherwydd fy mod i'n Gymro a dydyn nhw ddim yn cydnabod fy ninasyddiaeth.
"Mae mor annheg i gymryd y freuddwyd hon oddi wrtha i, y freuddwyd o wisgo crys Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
"Gobeithio bydd hyn yn cael ei sortio, ac mae'r gefnogaeth yn fy nghadw i'n fyw, yn byw yn y foment dros Gymru."
Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaeth Newyddion S4C adrodd fod y Cymro ifanc yn wynebu posibilrwydd na fydd yn cael chwarae dros ei wlad eto wedi i'w gais cyntaf am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod.
Gan fod Enzo nawr yn 16 oed, mae angen pasbort Prydeinig neu ddinasyddiaeth Brydeinig arno er mwyn chwarae dros Gymru.
Yn achos Enzo, Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 yw'r gyfraith berthnasol, gan fod Enzo wedi cael ei eni yn y DU a gadael y wlad cyn Brexit.
Pan oedd yn wyth oed arwyddodd i Barcelona a symudodd ei deulu i Sbaen lle maen nhw'n parhau i fyw.
Yn ôl y Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig "mae unigolion sy’n cael eu geni yn y DU yn ddinesydd Prydeinig yn awtomatig o'r cyfnod pryd gafodd ei eni, yn yr achos lle mae un o’i rieni yn Brydeinig neu wedi ymgartrefu yma."
Fe wnaeth tad Enzo, Antonio, symud i Gaerdydd ym mis Medi 2006 a'i fam, Awilda yn 2007.
Gwaith
Roedd Antonio wedi byw a gweithio yng Nghymru am gyfnod o 10 mlynedd. Roedd felly yn credu fod ganddo statws preswylydd parhaol (permanent residence).
Ond mae penderfyniad y Swyddfa Gartref yn nodi nad oes gan Antonio statws preswylydd parhaol gan nad oedd yn "cyrraedd y trothwy ar gyfer person cyflogedig".
Yn ôl y Swyddfa Gartref, ennill cyflog o £7,500 y flwyddyn cyn treth am gyfnod o bum mlynedd yn olynol yw'r trothwy ar gyfer "person cyflogedig" ar y pryd, ac nid oedd Antonio wedi cyrraedd y trothwy hwn.
Mae gan Lywodraeth y DU ddogfen sydd yn gosod canllawiau ar gyfer cyflwyno cais dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer plentyn.
Nid yw'r canllawiau hynny yn nodi bod angen i berson ennill isafswm o gyflog er mwyn cael eu hystyried fel "person cyflogedig."
Mae Antonio yn credu ei fod wedi ei gamarwain gan ei fod yn dweud nad oedd y wybodaeth berthnasol yn y canllawiau.
"Os wyt ti'n mynd i dudalen y Swyddfa Gartref a gwirio'r holl ofynion, mae Enzo yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth," meddai.
"Mae'r cais yn costio dros £2,000 a does dim ad-daliad os chi'n cael eich gwrthod. Felly chi'n edrych ar y gofynion a gweld bod chi'n gymwys, wedyn gwneud cais.
"Chi'n anfon yr holl ddogfennau ar gyfer hynny, ac yna mae'n cael ei wrthod oherwydd cyfraith arall, sydd heb ei chynnwys ar y wefan. Dyw e ddim yn deg."
Ymateb y Swyddfa Gartref
Yn ôl y Swyddfa Gartref, doedd dim modd iddyn nhw ymateb i sylwadau Antonio Romano, am fod yr achos yn dal i fod yn weithredol wedi iddyn nhw ei ail agor.
Pan gysylltodd Newyddion S4C ag Antonio Romano i nodi sylwadau'r Swyddfa Gartref am ail agor yr achos yr wythnos ddiwethaf, dywedodd fod hynny yn ei wneud yn hapus iawn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn gofyn am "wybodaeth bellach am gyfnod Antonio Romano yn y DU rhwng 2011/2012.
"Os ydy Mr Romano yn gallu cyflwyno tystiolaeth bellach o'i gyfnod yn y DU rhwng Ebrill 2011 ac Ebrill 2012, yn ogystal â rhestr o unrhyw absenoldebau o'r wlad yn ystod y flwyddyn hon ac unrhyw dystiolaeth ei fod yn derbyn cyflogaeth mewn swydd arall, byddwn yn gallu cwblhau'r asesiad.
"Fel arall, gallwn hefyd gwblhau asesiad pum mlynedd llawn ar gyfer Ms Matos Silva, mam Enzo. Nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ei bod hi'n arfer hawliau cytundeb yn y DU fel gweithiwr, fel y mae'r teulu yn honni."
Yn ôl rheolau cymhwyster (eligibility) FIFA, mae angen i chwaraewr fod yn ddinesydd Prydeinig er mwyn gallu cynrychioli un o dimau'r DU.
Hyd yma mae Enzo wedi gallu chwarae i dimau ieuenctid Cymru gan fod ganddo dystysgrif geni yn profi ei fod wedi ei eni yng Nghaerdydd.
Ond o 16 oed ymlaen mae timau ieuenctid Cymru yn dechrau chwarae gemau rhagbrofol yr Euros a Chwpan y Byd, sydd yn golygu teithio dramor.
Nid oes gan Enzo basbort Prydeinig sydd yn golygu na fydd yn gallu cynrychioli Cymru.
Ar hyn o bryd mae Enzo yn chwarae i Villasar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen.