'Pwysig clywed acenion y gogledd ar deledu Prydeinig'

'Pwysig clywed acenion y gogledd ar deledu Prydeinig'

Mae dau actor ifanc o Wynedd yn dweud ei bod yn bwysig clywed acenion Gogledd Cymru ar deledu Prydeinig wrth iddyn nhw ymddangos yn y gyfres Under Salt Marsh ar Sky.

Mae Under Salt Marsh yn dilyn ditectifs wrth iddyn nhw geisio datrys dirgelwch marwolaeth disgybl, Cefin Hill, cyn i storm fygwth dyfodol tref Morfa Halen.

Er mai tref ffuglennol yw Morfa Halen, mae’r gyfres wedi’i ffilmio ar draws Cymru, gan gynnwys Niwbwrch ac Aberffraw ym Môn, a Fairbourne yn ne Gwynedd.

Dywedodd Jack Thomas-Humphreys, 14 oed o Danygrisiau, bod cael chwarae rôl Cefin Hill yn y gyfres wedi bod yn "brofiad gwych".

"Dydi Cefin ddim yn y sioe am amser hir, ond mae o’n cymeriad sydd yn creu y sioe," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae pobl yn goro ffeindio allan pwy sydd wedi lladd o, ac mae pob dim rili yn cylchu rownd Cefin, sydd yn teimlad rili rili special i gael chwarae y rôl yna.

"Rwla dwi'n mynd ar y teledu wan, dwi jyst yn gweld Under Salt Marsh ac mae'n cŵl i gael deud dwi yn hwnna!"

Image
Under Salt Marsh
Yr actor Rafe Spall a Kelly Reilly, sef prif gymeriadau'r gyfres (Llun: Sky)

Ac yntau wedi ymddangos yn y gyfres Bariau ar S4C ac yn nhaith Deian a Loli gyda'r Frân Wen, mae gan Jack brofiad o berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond dyma’r tro cyntaf iddo gymryd rhan mewn cynhyrchiad Saesneg a chael y cyfle i gynrychioli Gogledd Cymru ar deledu Prydeinig.

"Dwi’n meddwl mae’n pwysig iawn i actorion Cymru gael siawns ar neud wbath Cymraeg oherwydd mae’n neud i’r sioe edrych yn mwy naturiol," meddai.

"Mae 'na lwyth o ddarnau o tir prydferth sydd ddim yn cael eu defnyddio i neud pethau fel 'na.

"Mae'n costio lot llai o gymharu â neud o mewn stiwdio, ac mae'n neud y teimlad mwy ffresh a personol cael gwybod yn union lle mae o."

Ychwanegodd: "Os ydi'r cymeriad yn dod o Gogledd Cymru, pan ddim defnyddio actor o Gogledd Cymru?"

Image
Osian Emlyn a Jack Thomas-Humphreys
Osian Emlyn a Jack Thomas-Humphreys ar set Under Salt Marsh

Yn chwarae cymeriad James Rees, ffrind gorau Cefin yn y gyfres, mae'r actor Osian Emlyn, 12 oed, o Fethesda.

Dyma'i rôl gyntaf ar y sgrin fach ac mae'n dweud bod y profiad wedi bod yn heriol ar adegau o ystyried natur y cynnwys.

"Mae James wedi colli ffrind o so oedd ‘na dim scene lle dwi’n gwenu yn y sioe i gyd," meddai.

"Os ti tu ôl y camera mae o jyst yn amser hwyl efo’r pobl neis tu ôl y camera, so odd fi jyst angen ddim gwenu a jyst crio, sgrechian."

Image
Set Under Salt Marsh
Mae'r gyfres wedi'i ffilmio mewn lleoliadau ar draws Cymru

Fel Jack, mae Osian yn dweud ei fod yn falch o'r cyfle i godi ymwybyddiaeth o acenion y gogledd.

"Os ti’n deutha rhywun i meddwl am Gymru neu acen Cymraeg, neith nhw jyst mynd reit i’r de," meddai.

"So, dwi’n meddwl bod o’n peth da bod maen nhw wedi rhoi fel spotlight ar y gogledd."

Er bod Jack ac Osian yn yr ysgol llawn amser, mae'r ddau'n gobeithio parhau i actio.

Y freuddwyd fawr, yn ôl Jack, ydi cael rôl mwy parhaol mewn sitcom.

"Fysa wbath fatha Brooklyn Nine-Nine efo cast doniol yn grêt," meddai.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.