‘Pryderon sylweddol’: Cyhoeddi ymchwiliad i brofiad carcharorion wrth ddefnyddio’r Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi derbyn cwynwion gan unigolion eu bod wedi profi enghreifftiau o gael eu rhwystro rhag siarad yr iaith â’i gilydd yn ystod ymweliad â charchar y Berwyn, meddai adroddiad newydd.
Mae Efa Gruffydd Jones wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i ystyried sut mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn gweithredu eu cynllun iaith Gymraeg.
Dywedodd bod yr ymchwiliad yn “nodi pryderon sylweddol ynghylch profiadau rhai carcharorion o ran defnyddio’r Gymraeg” ond bod gwelliannau ar waith.
“Yn ystod ymweliad y Comisiynydd â CEF Berwyn, a thrwy sgyrsiau â charcharorion, clywyd am enghreifftiau o unigolion yn cael eu rhwystro rhag siarad Cymraeg â’i gilydd,” meddai’r adroddiad.
“Mae’r enghreifftiau hyn yn codi pryderon difrifol ynghylch parch at hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol siaradwyr Cymraeg.”
Daw'r ymchwiliad wedi cwynion gan gyn-garcharorion yng ngharchar mwyaf Cymru yn Wrecsam, a oedd wedi siarad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Lerpwl.
Nododd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wrth ymateb nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion am garcharorion yn cael eu hatal rhag siarad Cymraeg â’i gilydd ers 2021.
Roedden nhw’n cydnabod bod un digwyddiad wedi codi ym mis Tachwedd 2025, a gafodd ei ddatrys yn fewnol.
Dywedodd yr adroddiad "na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng ngharchardai Cymru”.
Ond roedd ymweliad y Comisiynydd yn “awgrymu nad oedd yr addewid hwn o gydraddoldeb ieithyddol yn cael ei wireddu i raddau helaeth”.
Roedd carcharorion wedi cwyno nad oedd S4C a Radio Cymru ar gael. Mae'r adroddiad yn dweud bod Berwyn wedi sicrhau bod sianeli teledu Cymraeg a Radio Cymru ar gael ers hynny, er bod rywfaint o oedi technegol yn parhau.
Argymhellion
Ymhlith yr argymhellion a nodir y mae:
- Cryfhau ymwybyddiaeth staff o'r iaith a’r diwylliant
- Datblygu system fwy effeithiol ar gyfer adnabod a chofnodi sgiliau iaith
- Sicrhau fod carcharorion yn ymwybodol fod modd iddynt gyfathrebu yn Gymraeg gyda’i gilydd ac â chysylltiadau allanol
Mae’r gwasanaeth wedi ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr ymchwiliad, sy’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer gwelliannau pellach, meddai’r Comisiynydd.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones: “Yn dilyn ymweliad â charchar y Berwyn y llynedd lle cefais gyfle i drafod y ddarpariaeth Gymraeg gyda staff a charcharorion fe ddaeth yn amlwg fod yna bryderon ynghylch gweithrediad cynllun iaith Gymraeg y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.
“Roedd gwaith ymchwil gan arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd a Lerpwl hefyd yn adleisio’r pryderon hyn lle nad yw hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg yn cael eu hystyried yn ddigonol yng ngharchardai Cymru.
“O ganlyniad penderfynais gynnal ymchwiliad i’r modd y caiff y Gymraeg ei thrin ar draws y Gwasanaeth Carchardai gyda’r nod o sicrhau bod yr ymrwymiadau yn eu cynllun iaith yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn arwain at welliannau sylweddol.
“Er bod yr ymchwiliad wedi nodi pryderon sylweddol ynghylch profiadau rhai carcharorion o ran defnyddio’r Gymraeg, rhaid pwysleisio fod y dystiolaeth sydd ar gael yn gyfyngedig o ran ei chwmpas a’i natur.
“O ganlyniad, nid oedd modd dod i gasgliad pendant fod Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wedi methu â chydymffurfio â’i gynllun iaith Gymraeg ar sail y dystiolaeth a ystyriwyd.
“Ond mae’r ymchwiliad wedi amlygu meysydd clir lle mae angen cryfhau trefniadau, gwella eglurder, a chynyddu hyder carcharorion Cymraeg eu hiaith yn ymarferoldeb y ddarpariaeth. Rwyf felly wedi nodi argymhellion penodol a bydd fy swyddfa yn gweithio gyda swyddogion y gwasanaeth i sicrhau fod rhain yn cael eu gweithredu ar fyrder.
“Fel asiantaeth gweithredol o’r Goron, nid yw’r gwasanaeth carchardai yn dod o dan Safonau’r Gymraeg, ac mae fy mhwerau yn gyfyngedig oherwydd hynny.
“Dyma ddangos eto yr angen i ehangu cwmpas y Safonau i gynnwys mwy o sefydliadau a sectorau.
“Rwyf wedi gwneud y galwadau hyn yn gyson a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithredu i’r cyfeiriad hwn.”
Ymateb
Wrth ymateb i'r Comisiynydd Iaith, nododd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, fod hawliau carcharorion i siarad Cymraeg yn cael eu hyrwyddo'n barhaus drwy fforymau carcharorion Cymraeg eu hiaith yng Ngharchar y Berwyn, a bod y rhain wedi eu hailsefydlu ym mis Hydref 2025.
O fis Ionawr 2026 ymlaen, eglurodd y bydd yn cynnig fforymau misol i nifer llai o garcharorion er mwyn gallu cynnal trafodaethau ynghylch materion neu bryderon penodol, a'u bod yn cael eu hwyluso drwy gyfrwng y Gymraeg gan Arweinydd y Gymraeg y carchar.
Yng nghyd-destun CEF Berwyn, dywedodd y gwasanaeth y bydd rhwydwaith o wirfoddolwyr Cymraeg sy’n garcharorion yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
Mae posteri Croeso i’r Gymraeg Yma hefyd wedi cael eu harddangos ar draws y sefydliad.
