Undeb yn croesawu cyfreithiau newydd sy'n mynd i’r afael â hela 'sgwarnogod

Undeb yn croesawu cyfreithiau newydd sy'n mynd i’r afael â hela 'sgwarnogod

Mae undeb amaethyddol wedi croesawu cyfreithiau newydd sydd wedi’u cynllunio i gryfhau’r frwydr yn erbyn hela sgwarnogod â chŵn, neu “hare coursing”. 

Fe ddaeth y cyfreithiau newydd i rym yng Nghymru a Lloegr ar ddechrau'r mis.

Mae data o gais rhyddid gwybodaeth diweddar wedi canfod fod 1,800 o achosion o hela anghyfreithlon wedi eu cofnodi yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu ac yn cyflwyno cosbau llymach ar gyfer unigolion sy’n tresmasu ar dir er mwyn defnyddio cŵn i hela sgwarnogod.

Mae undeb amaethyddol yr NFU yn dweud fod achosion o hela o'r math yma wedi bod yn achosi pryderon i'w haelodau. 

Yn ôl Grug Evans, sy'n swyddog gyda'r undeb, mae cynnydd mawr wedi bod mewn achosion, yn enwedig mewn ardaloedd yn ne Cymru. Mae'r undeb yn dweud bod yna hefyd gynnydd mewn ardaloedd yn y gogledd erbyn hyn.

Image
sgwarnog

Mae hela sgwarnogod â chŵn yn weithgaredd lle mae cŵn, yn aml milgwn neu gŵn hela eraill, yn cael eu rhyddhau i garlamu ar ôl ysgyfarnogod gwyllt. 

Er bod y weithred o hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn wedi’i chyfyngu’n sylweddol ers pasio Deddf Hela 2004, mae hela sgwarnogod wedi parhau i fod yn broblem mewn rhai ardaloedd gwledig.

Mae sefydliadau amaethyddol a chynrychiolwyr cefn gwlad wedi dadlau ers tro fod y gweithgarwch yn achosi difrod i gnydau, ffensys a gatiau, yn ogystal â chreu ofn ymhlith ffermwyr a thirfeddianwyr. 

Image
giat
Mae enghreifftiau o giatiau a chloddiau yn cael eu difrodi gan bobl sy'n ymwneud ag hela'n anghyfreithlon

Mewn rhai achosion, mae adroddiadau wedi awgrymu bod unigolion sy’n ymwneud â’r gweithgarwch wedi ymddwyn yn fygythiol tuag at berchnogion tir sydd wedi ceisio eu herio.

Mae’r gyfraith newydd yn cynnwys pwerau ehangach i atafaelu (confiscate) cŵn ac offer cysylltiedig. Fe allai unigolion hefyd gael dirwyon mwy a gwaharddiadau rhag cadw cŵn yn y dyfodol.

Dywedodd y Llywodraeth y bydd y mesurau’n helpu i ddiogelu cymunedau gwledig ac yn rhoi mwy o hyder i’r heddlu weithredu yn erbyn troseddwyr. 

Ond bydd rhai yn dadlau mai’r prawf gwirioneddol fydd pa mor effeithiol y bydd yr heddluoedd yn defnyddio’r pwerau newydd i atal y gweithgarwch rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Targedu cerbydau hela

Wrth ymateb i'r cyfreithiau newydd, dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am hela ysgyfarnogod.

"O fewn ein hardal heddlu, mae digwyddiadau wedi cynnwys difrod i gnydau, poeni da byw, a gatiau'n cael eu difrodi neu eu gadael ar agor gan ganiatáu i anifeiliaid ddianc - ac mae'r rhain i gyd yn achosi gofid sylweddol ac effaith ariannol i ffermwyr," meddai llefaryd.

"Nid ydym ar hyn o bryd yn profi'r un lefel o droseddu cyfundrefnol, gamblo anghyfreithlon, na bygwth ffermwyr ag a adroddwyd mewn rhannau eraill o'r wlad."

Ychwanegodd y llu fod ganddyn nhw Dîm Troseddau Gwledig sy'n gweithio'n agos mewn partneriaeth â Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Sir Gaer i gynnal patrolau gyda'r nos mewn ardaloedd penodol i fynd i'r afael â'r broblem. 

Fel rhan o'u gwaith, mae'r timau yn defnyddio systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR) i dargedu cerbydau sy'n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â gweithgareddau hela ysgyfarnogod.

Dywedodd y Rhingyll Peter Evans o’r Tîm Troseddau Gwledig: "Mae gan hela effaith ddinistriol ar ffermwyr a bywyd gwyllt, gan achosi difrod, bygythiad ac, mewn nifer o achosion, trawma difrifol ac anafiadau angheuol i ysgyfarnogod.

"Rwy’n croesawu’r canllawiau dedfrydu sydd wedi’u diweddaru, sy’n nodi’n glir y cosbau priodol ac yn cefnogi’r llysoedd i gydnabod difrifoldeb llawn a’r niwed sy'n cael ei achosi gan y gweithgaredd troseddol hwn."

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.