Cynnydd bach mewn arian poced i blant dros y DU yn ôl ymchwil
Mae plant ar draws y DU wedi derbyn cynnydd bach o 12c yr wythnos mewn arian poced ers y llynedd yn ôl ymchwil gan ap arian.
Mae’r ymchwil gan ap GoHenry yn dangos fod plant yn Nghymru yn derbyn arian poced o £8.89 ar gyfartaledd bob wythnos.
Yn ôl yr ymchwil roedd plant a phobl ifanc rhwng saith a 18 oed yn derbyn £9.90 yr wythnos ar gyfartaledd dros y DU ym misoedd cyntaf 2026.
Roedd hyn yn gynnydd o 1.2% o'i gymharu â £9.78 rhwng Ionawr ac Ebrill 2025.
Mae bwlch rhwng y rhywiau hefyd o 3c yr wythnos, gyda merched yn derbyn £9.89 yr wythnos eleni a bechgyn yn cael £9.91 ar gyfartaledd.
Mae'r cynnydd canrannol blynyddol mewn arian poced i blant yn llai na hanner cyfradd chwyddiant sydd efallai'n dangos bod rhieni wedi bod yn teimlo'r pwysau oherwydd costau byw cynyddol meddai’r ymchwil.
Plant yn ne-ddwyrain Lloegr sydd yn derbyn yr arian poced wythnosol uchaf, sef £12.88 gyda phlant yn nwyrain Lloegr yn derbyn y swm lleiaf o £8.57
Wrth edrych ar daliadau am dasgau, tacluso ystafelloedd gwely yw'r dasg fwyaf poblogaidd gyda thaliad arian poced cyfartalog o £1.14 am wneud hyn.
Gwyliau yw'r nod cynilo mwyaf poblogaidd ac yna penblwyddi a dyfeisiadau electroneg, meddai GoHenry.
Dewisiadau annibynnol
Dywedodd Louise Hill, sylfaenydd GoHenry: “Mae'r ciplun canol blwyddyn hwn yn dangos rhywbeth pwysig iawn.
“Er gwaethaf costau byw cynyddol, mae plant yn dal i roi arian o'r neilltu wythnos ar ôl wythnos,
“Rydym yn gweld plant yn gwneud dewisiadau mwy annibynnol ynghylch ble maen nhw'n gwario, o archfarchnadoedd i drafnidiaeth ac iechyd a harddwch, gan adlewyrchu eu hymreolaeth a'u hyder cynyddol o ran rheoli eu harian.”
Roedd y dadansoddiad yn seiliedig ar sampl o fwy na 600,000 o blant rhwng saith a 18 oed yn cynilo gyda GoHenry.
Dyma'r tasgau mwyaf poblogaidd I blant gynilo agyda'r taliad arian poced cyfartalog:
1. Tacluso'r ystafell wely, £1.14
2. Helpu o gwmpas y tŷ, £1.21
3. Brwsio dannedd, £1.31
4. Gwneud gwaith cartref, £1.39
5. Gofalu am anifeiliaid anwes, £1.42