Brwydro uniongyrchol rhwng Iran ac Israel am y tro cyntaf ers Ebrill
Mae Israel wedi cynnal ymosodiadau o'r newydd ar dargedau yn Iran dros nos.
Fe ddaeth hyn ar ôl i Tehran danio taflegrau at Israel.
Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy wlad ymosod ar diriogaethau ei gilydd ers i'r cadoediad ddod i rym ddau fis yn ôl.
Mae Iran wedi dweud eu bod wedi targedau dinasoedd yng ngogledd Israel ac mai dyma ddechrau "wythnos o ymosodiadau di-dor".
Does dim adroddiadau o anafiadau wedi bod yn Israel hyd yma ac mae lluoedd y wlad wedi dweud eu bod wedi saethu'r taflegrau i lawr.
Roedd Israel yn gynharach ar ddydd Sul wedi ymosod ar dargedau yn ne Beiruit ym mhrif ddinas Libanus.
Fe wnaethon nhw ymosod ar ganolfan reoli lle'r oedd "terfysgwyr" meddai Israel.
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi annog Iran i ddod yn ôl at y bwrdd i drafod cytundeb heddwch wedi'r ymosodiadau.
Yn ôl Fox News mae Trump wedi dweud wrth Iran: "Dyna ddigon. Dewch yn ôl at y bwrdd i drafod."
Yn gynharach roedd Trump hefyd wedi dweud wrth Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu i beidio gwrth-ymosod ar Iran.
Mae'r datblygiadau diweddaraf yn dangos pa mor fregus yw'r sefyllfa yn y rhanbarth yn y Dwyrain Canol. Fe allai hefyd wneud pethau yn fwy anodd i Trump wrth iddo wthio am gytundeb gydag Iran.
Llun: Reuters
