Christian Eriksen yn cael profion yn yr ysbyty ar ôl syrthio yn anymwybodol mewn gêm bêl-droed
Mae'r pêl droediwr Christian Eriksen yn cael profion yn yr ysbyty ar ôl iddo syrthio yn anymwybodol yn ystod gêm gyfeillgar.
Fe wnaeth y dyn 34 oed o Denmarc ddisgyn ar y llawr yn ystod ail hanner y gêm rhwng Denmarc a Wcráin.
Ond fe ddaeth at ei hun ac fe wnaeth o gerdded oddi ar y cae.
Yn 2021 fe gafodd Eriksen ddyfais i ail ddechrau ei galon ar ôl iddo gael ataliad ar y galon mewn gêm yn ystod yr Euros.
Dywedodd meddyg y tîm cenedlaethol yn ei dyb o fod y ddyfais wedi "gweithio fel y dylai".
"Roedd yn anymwybodol am gyfnod byr ond fe ddaeth at ei hun yn gyflym iawn ac roedden ni mewn cyswllt yn gyflym gydag o. Fe fydd o nawr yn cael profion pellach yn yr ysbyty er mwyn deall beth achosodd y digwyddiad yma," meddai Morten Boesen.
Ychwanegodd fod Eriksen yn "gwneud yn dda ac wedi gofyn i fi anfon ei ddymuniadau at y chwaraewyr i gyd a dweud wrthyn nhw ei fod o'n iawn".
Fe wnaeth chwaraewyr y ddau dîm ffurfio cylch o gwmpas Eriksen pan gafodd driniaeth feddygol ar y cae. Dyma wnaeth chwaraewyr Denmarc a'r Ffindir yn 2021 hefyd.
Cafodd y gêm gyfeillgar ei chanslo wedi'r digwyddiad. Fe safodd y pêl droedwyr a staff y ddau dîm fraich wrth fraich mewn cylch wrth i reolwr Denmarc, Brian Riemer ei hannerch.
"Y peth pwysicaf yw bod Christian yn gwneud yn dda ac mae o," meddai Riemer yn ddiweddarach. "Mae wedi gadael y cae, ac mae wedi anfon ei gyfarchion at y chwaraewyr.
"Nawr mae angen i ni sefyll gyda'n gilydd, fel y gweloch chi y gwnaethon ni yn y ffordd fwyaf urddasol ar y cae, ac wrth gwrs sicrhau bod gan bawb rhywun y gallan nhw droi ato."