Pryderon dros gynllun i gau dwy ysgol Gymraeg yn Sir Conwy

Ysbyty Ifan

Mae pwyllgor wedi codi pryderon ynghylch cynlluniau i gau dwy ysgol Gymraeg wledig yn Sir Conwy.

Penderfynodd pwyllgor trosolwg a chraffu addysg a sgiliau Cyngor Sir Conwy i beidio â chefnogi cynigion i gau'r ysgolion, ar ôl pleidlais cyn cyfarfod y cabinet yr wythnos nesaf.

Mae’r cyngor eisoes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws y Coed, ac mae disgwyl i benderfyniad terfynol gael ei wneud gan y cabinet ym mhencadlys yr awdurdod yng Nghoed Pella, ddydd Mawrth, 9 Mehefin.

Yno fe fydd y cyngor yn penderfynu a ddylid cyhoeddi hysbysiadau statudol ar y cynigion i gau’r ysgolion.

O ran Ysgol Ysbyty Ifan, pleidleisiodd cynghorwyr o bump i dri o blaid peidio ag argymell cau’r ysgol, gydag wyth yn ymatal.

O ran Ysgol Betws y Coed, pleidleisiodd yr aelodau hefyd o blaid peidio ag argymell cau’r ysgol, gydag wyth o blaid, chwech yn ymatal, a dau yn erbyn.

Dim ond 14 o ddisgyblion sydd yn y ddwy ysgol.

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Liz Roberts: “Mae’n rhaid i ni edrych o ddifri ar ddarpariaeth ysgolion gwledig yn fwy manwl.

“Rydyn ni’n gwybod bod niferoedd yn gostwng, ond allwn ni ddim dal ati i gau ysgolion ar hap. 

“Mae’n rhaid i ni edrych o ddifri ar hyn fel awdurdod.”

Ychwanegodd: “Yr hyn sydd wedi digwydd yw sefyllfa lle mae pob pentref, i bob pwrpas, wedi cael ei osod yn erbyn y llall, gyda phob un yn ceisio amddiffyn ei ysgol ei hun.”

'Ben i waered'

Cefnogodd y Cynghorydd Simon Croft y syniad o droi Ysgol Betws y Coed yn “ysgol ardal”, ar ôl i’r cynnig gael ei grybwyll gan y Cynghorydd Liz Roberts.

Dywedodd: “Rwy’n credu y byddai Betws y Coed yn ymgeisydd ardderchog ar gyfer ysgol ardal, i’w hailadeiladu fel yr ysgol ardal, gan gynnwys Capel Garmon, Penmachno…”

Wrth gadeirio’r cyfarfod, torrodd y Cynghorydd Gwennol Ellis ar ei draws, gan ofyn iddo dynnu ei ddatganiad yn ôl a pheidio ag enwi unrhyw ysgolion eraill yn y trafodaethau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Croft fod “yr holl ysgolion yn yr ardal [...] ymhell o dan y 75% y mae Llywodraeth Cymru yn chwilio amdano”, gan ychwanegu ei fod yn gresynu bod y cynigion i gau ysgolion wedi cyrraedd “y cam hwn cyn ystyried strategaeth ysgolion gwledig”.

Ychwanegodd: “Mae pethau ben i waered yn fy marn i.” Yna ymddiheurodd y Cynghorydd Ellis i unrhyw gymuned a gafodd ei henwi gan y Cynghorydd Croft.

Daw’r cynigion ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 28 Tachwedd 2025 a 9 Ionawr 2026, lle gwelwyd gwrthwynebiad cryf i gau’r ddwy ysgol yn yr ymatebion.

Cafodd deiseb â mwy na 900 o lofnodion hefyd ei chyflwyno i’r Cyngor yn gwrthwynebu cau Ysgol Betws y Coed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.