Pryder am 250 o swyddi yn ne Cymru wrth i gwmni Brace's wynebu cyfnod 'heriol'
Mae pryderon am gannoedd o swyddi yn ne Cymru wrth i gwmni becws Brace's ddweud eu bod yn wynebu amodau ariannol "heriol".
Dywedodd y cwmni bod y safle yn ystâd ddiwydiannol Pen-y-Fan, yn Sir Caerffili, sy'n cyflogi tua 250 o weithwyr, dan fygythiad oni bai bod prynwr newydd yn cael ei ganfod.
Dywedodd rhai aelodau o staff, nad oeddent am gael eu henwi, wrth ITV Cymru bod problemau wedi bod gyda chyflogau'n ddiweddar, lle nad oedd y swm llawn yr oedd yn ddyledus iddynt wedi cael ei dalu.
Mewn datganiad i ITV Cymru, dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Jonathan Brace: "Fel y gwyddoch, mae Brace's wedi bod yn wynebu amodau heriol dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn marchnad heriol.
"Rydym mewn trafodaethau gyda phrynwr posibl ac rydym yn disgwyl gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi o fewn 24 i 48 awr.
"Diogelu swyddi ein gweithlu ffyddlon yw ein prif amcan i sicrhau bod ein hamrywiaeth o gynhyrchion o safon yn parhau i fod ar gael am flynyddoedd i ddod."
Llun: ITV Cymru