Rhybudd i 'gau ffenestri a drysau' wedi adroddiadau o dân ar safle Tata Steel
Mae'r gwasanaethau brys wedi'u galw i safle Tata Steel ym Mhort Talbot yn dilyn adroddiadau o dân a mwg trwchus.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru ryddhau datganiad am 23.22 nos Iau yn gofyn i bobl osgoi'r ardal a chynghori trigolion lleol i gau eu ffenestri a drysau.
Mae lluniau o dân a mwg trwchus bellach wedi'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan drigolion lleol.
"Mae'r gwasanaethau brys yn ymdrin â digwyddiad yn Tata Steel, Port Talbot," meddai llefarydd ar ran y llu.
"Mae mwg sylweddol i'w weld yn yr ardal. Cynghorir i drigolion gadw eu ffenestri a drysau ar gau.
"Dylid osgoi'r ardal a defnyddio ffyrdd eraill lle bo'n bosib, os gwelwch yn dda. Diolch am eich amynedd."
Daw hyn yn dilyn datganiad gan Tata Steel ddydd Iau yn rhybuddio am "sŵn uchel" o'r gwaith dur wrth i waith i ddymchwel rhan o'r safle gael ei gynnal.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Efallai bod pobl sy'n gweithio ac yn byw yn ardal Port Talbot newydd glywed sŵn uchel yn dod o waith dur Port Talbot.
"Dyma ganlyniad i ddymchweliad cynlluniedig y Daliwr Nwy Ffwrn Golosg gwag, diangen, sydd wedi'i gwblhau'n ddiogel fel rhan o'r gwaith peirianneg parhaus ar y safle.
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir."
Yn fuan wedi'r sŵn, daeth adroddiadau gan bobl sy'n byw ger y safle eu bod wedi clywed larwm uchel o'r safle, cyn i fwg du trwchus ddechrau codi o fewn y ffatri.
Mae cynghorwyr lleol yn ardal Margam a Thai-Bach yn adrodd bod y mwg yn cael effaith ar amodau gyrru ar yr M4.
"Byddwch yn ofalus wrth yrru yn yr ardal. Mae'r mwg yn achosi gwelededd gwael iawn yn ardal Margam ond hefyd ar yr M4 cyn belled â chyffordd y Pîl," meddai datganiad ar y cyd gan y cynghorwyr Rob Jones, Dennis Keogh a Laura Williams.
Llun: PA/Yvonne Courtney
