'Mae amlosgi yn broblem’: Croesawu adroddiad sy'n awgrymu caniatáu compostio cyrff yng Nghymru

Kris Hughes

Mae arbenigwr ar ofal post-mortem wedi croesawu adroddiad sy'n awgrymu caniatáu compostio cyrff ac 'amlosgi dŵr' yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r adroddiad newydd gan Gomisiwn y Gyfraith yn argymell creu fframwaith cyfreithiol a fyddai’n galluogi gweinidogion Cymru i reoleiddio dulliau newydd o waredu cyrff pobl ar ôl eu marwolaeth, y tu hwnt i'w claddu neu eu llosgi.

Nid yw’r adroddiad yn golygu y bydd unrhyw ddull newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ar unwaith.

Mater i Lywodraeth Cymru fydd penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r argymhellion ac a ddylid caniatáu unrhyw ddull penodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae hwn yn faes pwysig a sensitif, a byddwn yn ystyried goblygiadau datganoledig yr adroddiad hwn yn fanwl.”

Mae Kristoffer Hughes, o Ynys Môn, wedi bod yn ymgyrchu dros gyflwyno compostio cyrff fel opsiwn yn y DU.

Mae wedi gweithio gyda chyrff pobl sydd wedi marw ers dros dri degawd.

Yn ystod y gyfres deledu Marw gyda Kris, fe ymwelodd â safle compostio cyrff yn Seattle yn yr Unol Daleithiau.

Yn y rhaglen, fe welodd y cynwysyddion lle mae’r broses yn digwydd, y deunydd organig sy’n cael ei ddefnyddio, a’r pridd sy’n aros ar ddiwedd y broses.

Fe orweddodd y tu mewn i un o’r cynwysyddion hefyd.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd fod y profiad wedi gwneud iddo feddwl mewn ffordd wahanol am beth allai ddigwydd i’w gorff ei hun ar ôl iddo farw.

“Mi fyddai’n goed, mi fyddai’n flodau, mi fyddai’n llysiau, fyddai’n berlysiau, fyddai’n wair ac yn bod bywyd rhywsut yn cario ’mlaen, nid fel metaphor,” meddai.

“Does dim ots beth ydy ysbrydolrwydd fi neu ysbrydolrwydd unrhyw berson, mae’r corff yn rhywbeth sy’n pydru.

“Dydy hwn ddim yn ddiwedd. Mae hwn yn gylch.”

Image
Kris Hughes yn Return Home, seattle
Mae'r cyrff yn pydru gan ddefnyddio deunydd organig fel gwair alffalffa (Llun: Ffilmiau Twm Twm)

‘Gwastraffus'

Mae’r adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith yn cyfeirio at ddau ddull sydd eisoes ar gael mewn rhai rhannau o’r byd.

Mae hydrolysis alcalïaidd, sydd weithiau’n cael ei ddisgrifio fel “amlosgi dŵr”, yn defnyddio dŵr, cemegion alcalïaidd, gwres a phwysedd i ddadelfennu meinwe’r corff.

Mae esgyrn a dannedd yn aros ar ôl ar ddiwedd y broses.

Mae rheoliadau wedi cael eu cyflwyno yn yr Alban yn ddiweddar sy’n galluogi defnyddio’r dull yno.

Mae compostio cyrff dynol yn broses wahanol.

Mae’r corff yn cael ei osod mewn cynhwysydd wedi’i selio gyda deunydd organig, gan gynnwys pethau fel gwellt, naddion pren a phlanhigion.

Mae’r amodau yn y cynhwysydd yn cyflymu’r broses naturiol o bydru. Dros gyfnod o sawl wythnos, mae’r corff yn dadelfennu ac mae pridd yn aros ar ddiwedd y broses.

Nid yw compostio cyrff dynol nac hydrolysis alcalïaidd ar gael fel dull angladdol wedi’i reoleiddio yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Kristoffer Hughes ei fod yn gweld compostio cyrff fel ffordd o ddychwelyd gweddillion dynol i’r ddaear ac i gylch naturiol bywyd.

Mae Hughes wedi sefydlu Eterrna Life gyda Chris Cooper-Hayes, gyda’r nod o weld compostio cyrff yn cael ei gynnig fel opsiwn yn y DU pe bai’r gyfraith yn newid.

Mae’r ddau wedi ymweld â’r Unol Daleithiau eleni i ddysgu mwy am y dull ac i gael hyfforddiant arno.

Dywedodd fod y dull yn cynnig dewis arall i bobl sydd ddim am gael eu claddu na’u hamlosgi, a bod diddordeb mewn opsiynau gwahanol yn cynyddu.

Mae hefyd yn credu bod pobl iau yn fwy parod i drafod y mater oherwydd eu pryderon am yr amgylchedd a’r argyfwng hinsawdd.

"Mae amlosgi yn broblem," meddai.

"Mae o yn defnyddio cymaint o egni a pan ti'n meddwl faint ydy pris nwy, mae hynny ond yn mynd i waethygu.

"Da ni'n defnyddio nwy i ddinistrio cyrff pobol pan fasa ti'n gallu defnyddio'r nwy i gynhesu tai pobol.

"Mae'n teimlo'n wastraffus."

Image
Kris gyda'r compost ar ddiwedd y broses
Dyma ganlyniad proses 60 diwrnod o gompostio cyrff dynol (Llun: Ffilmiau Twm Twm)

Mesurau diogelwch

Nid yw’r Comisiwn yn argymell caniatáu pob dull newydd yn awtomatig.

Yn hytrach, mae’n cynnig fframwaith a fyddai’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu pa ddulliau penodol i’w caniatáu, a pha reolau ddylai fod yn berthnasol i bob un.

Pe bai dull newydd yn cael ei gymeradwyo, byddai’n rhaid ystyried yr effaith ar yr amgylchedd, iechyd a diogelwch y cyhoedd, a’r angen i drin gweddillion dynol ag urddas.

Byddai’n rhaid cofrestru pob achos, yn debyg i’r drefn bresennol ar gyfer claddu ac amlosgi, a byddai angen archwilio’r cyfleusterau sy’n cynnig y gwasanaeth.

Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell y dylai defnyddio dull heb ei gymeradwyo fod yn drosedd.

Yn yr achosion mwyaf difrifol, gallai rhywun wynebu hyd at dair blynedd yn y carchar yn ogystal â dirwy.

Byddai modd cynnal treialon swyddogol o ddulliau newydd, ond dim ond os oedd yr unigolyn wedi rhoi caniatâd cyn ei farwolaeth y byddai modd defnyddio ei gorff.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi Bil drafft ar wahân ar gyfer Cymru gan fod claddu ac amlosgi yn faterion datganoledig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.