'Dipyn o sioc': Mari Grug fydd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai’r ddarlledwraig a’r cyflwynydd, Mari Grug, fydd Llywydd yr Ŵyl, Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni.
Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes y Brifwyl, yn ystod y seremoni agoriadol ddydd Sadwrn 1 Awst.
Wrth ymateb i’r gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol, dywedodd Mari Grug ei fod yn "anrhydedd fawr".
"Roedd derbyn y gwahoddiad yn dipyn o sioc, a dweud y gwir! Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl rhaid i mi ddweud, ond i'r rheini sy'n fy adnabod, maen nhw'n gwybod bod yr Eisteddfod wedi bod yn rhan fawr o 'mywyd i erioed.
“Cefais fy magu gydag Eisteddfod yr Urdd, ac yna, diolch i Marilyn Lewis, cefais fy nghyflwyno i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda Chôr Newyddion Da. Wedyn, cystadlu gyda'r côr mewn cystadlaethau canu ac alawon gwerin, ac yn unigol yn llefaru.
“Rwy'n falch iawn o'r gwahoddiad, ac rwy'n gobeithio y galla i fod yn rhyw fath o lysgennad i'r Eisteddfod, a denu mwy o bobol i ddod i'r Maes i fwynhau beth rwyf i wedi'i fwynhau ers blynyddoedd.
"Mae wythnos Eisteddfod y Garreg Las yn sicr o fod yn brysur – mae’r amserlen eisoes yn llawn digwyddiadau a seremonïau, ond gobeithio y bydd cyfle hefyd i fwynhau tipyn ar yr wythnos.”
'Profiad hyfryd'
Magwyd Mari ar fferm ym Mynachlog-ddu, a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol y Preseli, Crymych, cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a mynd i weithio i’r cyfryngau, yn gyntaf fel actores yn y gyfres ‘Darn o Dir’, cyn cychwyn ei gyrfa gyflwyno ar raglen ‘Planed Plant’ ac yna ymuno â thîm tywydd Newyddion S4C pan lansiwyd y gwasanaeth ar ei newydd wedd.
Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni o rai o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, megis yr Urdd, y Sioe Fawr, yr Ŵyl Gerdd Dant, a’r Eisteddfod Genedlaethol wrth gwrs. Erbyn heddiw, mae Mari’n fwyaf adnabyddus fel un o gyflwynwyr y rhaglenni dyddiol poblogaidd ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’, ac mae hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru.
Ym mis Gorffennaf 2023, datgelodd Mari ei bod hi’n derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig, a hithau ar y pryd ond yn 38 oed.
Bellach, mae hi’n byw gyda’r canser sydd wedi lledu i’w nodau lymff a’i hafu. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi wedi rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chanser yn ei phodlediad ‘1 mewn 2’, ac ar raglen ddogfen ar S4C. Mae hi hefyd yn llysgennad ar ran Ymchwil Canser Cymru.
Mari oedd Cyflwynydd y Flodeuged yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.
Wrth gofio’r profiad arbennig hwnnw dros ugain mlynedd yn ôl, dywedodd ei fod yn “brofiad hyfryd cael bod yn rhan o’r Eisteddfod y tro diwethaf iddi ddod i’r ardal".
"Roedd honno’n wythnos brysur hefyd, gyda seremonïau’r Orsedd a’r cystadlu – a bod allan yn y nos yn mwynhau! Ac rydw i’n edrych ymlaen at gael chwarae rôl eleni eto a hynny fel Llywydd yr Ŵyl," meddai.
Mae Mari’n dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys yr actor, Mark Lewis Jones, y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens a’r aelodau seneddol, Liz Saville Roberts a Ben Lake.
Bydd Mari hefyd yn cael ei derbyn i Orsedd Cymru er anrhydedd fore Gwener, 7 Awst ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
