Cyhoeddi enw dyn 34 oed a fu farw mewn digwyddiad ger traeth Y Bermo
Mae enw'r dyn a fu farw mewn digwyddiad yn y môr ger traeth Y Bermo yng Ngwynedd wedi cael ei ryddhau.
Dywed Swyddfa'r Crwner dros Ogledd Orllewin Cymru mai Ruhul Amin Nana, 34 oed, oedd y dyn a fu farw yn dilyn digwyddiad ar 25 Mai.
Roedd Mr Nana yn athro ac yn dod o ardal Birmingham.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r traeth yn dilyn adroddiadau bod dyn yn y dŵr ychydig ar ôl 15.00.
Er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd dyn 24 oed o ardal Birmingham ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Teyrnged
Yn dilyn marwolaeth Mr Nana, fe gyhoeddodd ei aelod seneddol lleol, Ayoub Khan, deyrnged iddo gan ddweud: "Rwy'n drist iawn o glywed am farwolaeth Mr Ruhul Nana, aelod staff uchel ei barch ac athro Gwyddoniaeth eithriadol yn Academi Broadway yn fy etholaeth i, Birmingham Perry Barr.
"Gwnaeth Mr Nana effaith barhaol ar gynifer o bobl ifanc trwy ei ymroddiad, ei garedigrwydd a'i angerdd dros addysgu.
"Bydd myfyrwyr, cydweithwyr a'r gymuned ehangach yn ei gofio'n annwyl. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i wraig, ei blant, ei deulu, ei ffrindiau a phawb yn Ysgol Broadway yn ystod yr amser anodd hwn."
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Chris Bell o Heddlu'r Gogledd: “Hoffwn ddiolch i bob aelod o’r cyhoedd a gynorthwyodd y dyn ar y traeth... ac i bawb sydd wedi cysylltu â ni ers hynny.
“Rydym wedi derbyn ymateb sylweddol gan y cyhoedd, sy’n hynod ddefnyddiol i’n hymholiadau.
“Rwy’n parhau i annog unrhyw un a oedd ar draeth Y Bermo ddydd Llun 25 Mai ac a welodd y digwyddiad, ac nad yw eisoes wedi siarad â’r heddlu, i gysylltu.
“Rwyf hefyd yn apelio eto at unrhyw un a oedd ar y traeth rhwng 14:00 a 16:00 a gymerodd unrhyw luniau neu fideos i’w hanfon atom cyn gynted â phosib."
