'Blynyddoedd' cyn y bydd achosion o ddiswyddo annheg yn cael eu clywed yn y tribiwnlysoedd

Newyddion S4C

'Blynyddoedd' cyn y bydd achosion o ddiswyddo annheg yn cael eu clywed yn y tribiwnlysoedd

Fe all fod yn flynyddoedd cyn y bydd achosion o ddiswyddo annheg yn cael eu clywed yn y tribiwnlysoedd - dyna'r rhybudd gan gyfreithwraig amlwg ym maes cyflogaeth.

Mae Fflur Jones yn disgwyl mwy o achosion gan fod y gyfraith wedi newid yn ddiweddar. Mae hi hefyd yn rhagweld mwy o oedi lle bydd achos yn gwneud defnydd o'r Gymraeg.

Mae Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd yn dweud bod camau'n cael eu cymryd i gyflymu'r broses.

Cyfeirio mae Fflur, sy'n bartner rheoli gyda chwmni cyfreithwyr Darwin Gray, at y newid yn y gyfraith sy'n golygu y gall gweithwyr ddwyn achos o ddiswyddo annheg yn erbyn eu cyflogwyr ar ôl chwe mis o waith. 

Cyn i'r ddeddf ddod i rym ym mis Rhagfyr y llynedd bu'n rhaid bod yn gyflogedig am ddwy flynedd cyn medru dwyn achos o'r fath.  

"Mae'r achosion yma'n gallu para blynyddoedd," meddai. 

"Yn Llundain ar hyn o bryd maen nhw'n rhestru achosion i gael eu gwrando yn 2030 a dan ni yn 2026, just i roi enghraifft i chi. 

“Yng Nghymru dydy'r sefyllfa ddim cweit mor ddrwg ond dydy hi ddim yn gret de.

"Mae'n rhaid i achosion ddigwydd mewn amser amserol oherwydd os nad ydyn nhw yna mae'r co'n pallu, mae treigl amser yn golygu bod pobol yn symud ymlaen, mae'r foment yn pasio a dydyn nhw ddim yn cael y mynediad i gyfiawnder."

Image
Gerald
Gerald Parry

‘Stress’

Mae na bron i chwarter canrif bellach ers i un o'r achosion mwya adnabyddus yn hanes Cymru gael ei glywed yn y tribiwnlysoedd. 

Fe wnaeth 86 o weithwyr Friction Dynamics Caernarfon ennill achos o ddiswyddo annheg, er na fydden nhw'n cael iawndal yn y pen draw.

Doedd hi ddim yn broses gyflym, a bu'n rhaid aros bron i flwyddyn a hanner cyn cynnal yr achos. Prif dyst y gweithwyr ar y pryd oedd John Davies.

"Mae'r wybodaeth mae rhywun yn gorfod gael yn cymryd lot o amser, ac wrth gwrs mae na bwysa wedyn ar y sawl sy'n disgwyl mynd i'r tribiwnal,” meddai.

“Lle oeddan ni'n lwcus oeddan ni'n perthyn i'r undeb ac roedd yr undeb yn gwneud y rhan fwya o'r gwaith."

Un arall o'r criw enillodd yr achos hwnnw oedd Gerald Parry.

"Oedd o'n stress lot." meddai. "Mae'n dibynnu ar yr unigolyn sti, sut oedd hi adra efo'r plant a petha .... individual oedd o de."

Yn Saesneg y cafodd tribiwnlys gweithwyr Friction ei gynnal, gyda'r gwrandawiad yn Lerpwl a'r cyfreithwyr yn dod o Loegr. 

Mae gan bobol yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn nhribiwnlysoedd Cymru, ond mae Fflur Jones yn rhybuddio y gall hynny arwain at fwy o oedi eto.

"O'n profiad ni fel firm, a dan ni'n gwneud lot o waith drwy gyfrwng y Gymraeg, dan ni yn gweld mwy o oedi a mwy o rwystredigaeth pan mae rhywun yn dod ag achos yn Gymraeg oherwydd nid yn unig falla nad ydy'r barnwr ar gael ond yn aml mae angen cyfieithydd."

Image
Nic Parry
Nic Parry

Mae'r cyn-farnwr Nic Parry hefyd yn ymwybodol o'r anawsterau all godi.

"Be sy'n ddiddorol ydy bod gan unigolion o dan y ddeddf briodol hawl i gael eu hachosion yn Gymraeg,” meddai.

“Ond wrth gwrs dydy cyfiawnder ddim wedi cael ei ddatganoli a dydy'r ddau beth ddim wedi eu plethu a'r gwyn ydy nad ydy hi'n hawdd dwyn eich achos yn Gymraeg a bod dod ac achos efo elfen o'r Gymraeg yn ychwanegu at yr oedi ac mae na apel am i well ystadegau gael eu cadw i weld yn union be di dyfnder y broblem yna."

Ymateb

Fe ddaeth ymateb gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Fawrhydi, sy'n dweud wrth geisio cyflymu'r broses fod gwrandawiadau bellach yn digwydd ar fwy o ddyddiau, a mwy o farnwyr yn cael eu recriwtio ym maes cyflogaeth. 

Fe fydd rhai o'r rheini'n dechrau ar y gwaith yn yr haf, ac mae hyd at 150 o bobol yn cael eu ricriwtio'n ogystal i wasanaethu ar bwyllgorau tribiwnlys.

Fe ychwanegon nhw fod gan bobol yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn nhribiwnlysoedd Cymru, a hynny ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda barnwyr Cymraeg yn cael eu defnyddio lle bo modd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.