Galw ar Loegr i ddilyn Cymru ar derfyn 20mya diofyn

20mya

Fe ddylai ffyrdd mewn ardaloedd preswyl yn Lloegr fod â therfyn cyflymder diofyn o 20mya, yn ôl cynghorwyr i Lywodraeth y DU.

Byddai gostwng y terfyn o 30mya yn arbed arian, meddai’r Cyngor Ymgynghorol Seneddol annibynnol ar Ddiogelwch Trafnidiaeth (Pacts).

Fe wnaeth  Llywodraeth Cymru'r gyflwyno polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn 2023.

Ond fe fuodd yna wrthwynebiad gan rai. Cafodd deiseb ei llofnodi gan bron 500,000 o bobl yn galw am wrthdroi’r cyfyngiadau.

Ym mis Ebrill 2024, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n adolygu’r cynllun.

Wrth ymddangos dydd Mercher dywedodd Jamie Hassall, cyfarwyddwr gweithredol Pacts, wrth Bwyllgor Dethol Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin fod ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno parthau 20mya yn “ddrud”, gan fod hynny’n golygu mwy o arwyddion a gwaith papur.

Dywedodd: “Ffordd lawer rhatach yw pennu’r ffyrdd yn rhai 20mya, a rhoi’r gallu i’r awdurdod lleol godi’r terfyn cyflymder os ydyn nhw am wneud hynny, oherwydd dyna ble mae’n fwy costus."

Ychwanegodd: “Mae cael canllawiau sy’n caniatáu i bobl newid y terfyn diofyn presennol yn fwy costus, ac mae’n mynd i gymryd llawer mwy o amser.”

Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gyflwyno’r terfyn ar “y ffyrdd hynny lle mae’n briodol gwneud hynny”.

Mae 62 allan o 153 o awdurdodau lleol yn Lloegr eisoes wedi “mabwysiadu polisi tebyg i’r Alban”, yn ôl yr elusen Living Streets.

Mae gostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya wedi bod yn un o brif bolisïau trafnidiaeth Maer Llundain, Syr Sadiq Khan, gyda mwy na hanner ffyrdd y brifddinas bellach ar y terfyn is.

Ym mis Ebrill, fe wnaeth y Blaid Geidwadol lansio Cynllun i Yrwyr a oedd yn cynnwys addewid i “roi diwedd ar gynlluniau 20mya cyffredinol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.