Galw ar gorau Cymru i ymuno â Chôr y Byd wrth iddo ddychwelyd ar ôl dros 30 mlynedd
Mae galw ar gorau ledled Cymru i gymryd rhan yng Nghôr y Byd wrth iddo ddychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd.
Bydd hyd at 20,000 o gantorion 16 oed a hŷn yn dod ynghyd ar gyfer y côr torfol yn Stadiwm Principality ym mis Mai 2027.
Bydd y digwyddiad yn rhan o Ŵyl Gwlad y Gân, sef gŵyl newydd o ganu torfol fydd yn cael ei chynnal yn y stadiwm rhwng 6 a 9 Mai.
Bydd digwyddiad Young Voices Cymru hefyd yn cael ei gynnal yn ystod yr ŵyl, gan ddod â hyd at 15,000 o blant rhwng 7 a 14 oed at ei gilydd yn Stadiwm Principality.
Mae gwahoddiad i gorau o bob maint gofrestru eu diddordeb i gymryd rhan, gyda miloedd o gantorion eisoes wedi cofrestru.
Cafodd Côr y Byd ei gynnal yng Nghaerdydd yn wreiddiol ym 1992 ac eto ym 1993, pan ddaeth corau o Gymru a thu hwnt ynghyd ar gyfer cyngherddau torfol ym Mharc yr Arfau.
Perfformiodd Tom Jones gyda chôr o tua 10,000 o gantorion yn y cyngerdd ym 1992, tra bod Shirley Bassey wedi perfformio yn yr ail gyngerdd flwyddyn yn ddiweddarach.
Yn ôl y trefnwyr, bydd y rhaglen yn cynnwys caneuon Cymreig traddodiadol, cerddoriaeth werin a phop, yn ogystal â chaneuon o ffilmiau a sioeau cerdd.
Cynhelir Gŵyl Gwlad y Gân mewn partneriaeth â Stadiwm Principality, Kilimanjaro Live, Caerdydd Dinas Cerddoriaeth, Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru.