Pryderon y gallai toriadau'r BBC effeithio ar raglenni Cymraeg

Newyddion S4C

Pryderon y gallai toriadau'r BBC effeithio ar raglenni Cymraeg

Mae Cyn-Gadeirydd y BBC ac S4C wedi codi pryderon y gallai toriadau'r BBC arwain at wario llai o arian ar raglenni teledu Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae BBC Cymru yn darparu isafswm o ddeg awr bob wythnos i S4C - a rhai o'r rhaglenni hynny wedi bod yn rhan o amserlen y sianel Gymraeg o'r cychwyn cyntaf.

Ond ddydd Mercher, fe gyhoeddodd y BBC fod angen arbed £500m - rhywbeth fydd hefyd yn golygu colli hyd at 2,000 o swyddi.

Yn ogystal â bod yn Gadeirydd ar y ddau gorff, fe fu'r Athro Fonesig Elan Closs Stephens yn aelod Cymru ar fwrdd rheoli'r BBC am 13 mlynedd.
 
"Beth allai fod yn broblem ydy faint o arian sy'n dod i BBC Cymru i wneud eu rhaglenni nhw," meddai. 
 
"Y rhaglenni maen nhw'n eu rhoi'n uniongyrchol, sef Pobol y Cwm, Newyddion S4C ac wrth gwrs rhywbeth mawr iawn fel gwneud yr Eisteddfod bob blwyddyn, sydd yn brosiect enfawr."
 

Dydy'r BBC ddim wedi ymateb i'r pwynt penodol hwnnw. Ond fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro, Rhodri Talfan Davies, fod pob adran yn edrych ar eu cynlluniau er mwyn mynd i'r afael a'r her y flwyddyn nesa - edrych ar sut y gallan nhw osgoi dyblygu, a pha weithgareddau all, o bosib, ddod i ben, tra'n blaenoriaethu'r cynnwys a'r gwasanaethau sydd a'r effaith fwyaf ar y gynulleidfa.

Mi fydd angen i bob adran rannu mwy am eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf - 2027/8 - erbyn mis Medi.

Mae'r BBC hefyd wedi dweud bod eu costau'n codi'n uwch na'u hincwm ar hyn o bryd, ac mai un o'r anawsterau ydy bod llai o bobol yn talu'r drwydded deledu - gan fod ffyrdd cyfreithlon i osgoi talu honno bellach drwy beidio â gwylio teledu byw.

 
Ymateb S4C
 
Mae'r rhan fwyaf o arian S4C yn dod trwy law'r BBC - a hynny'n £95m y flwyddyn, yn ôl cyfrifon diweddara'r Gorfforaeth. Nid y BBC sy'n penderfynu ar y ffigwr hwnnw, ond yn hytrach Llywodraeth y DU.
 
"Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am osod lefel yr incwm mae S4C yn ei dderbyn o'r ffi drwydded, ac mae'r cyllid hynny wedi ei gytuno, ac yn cynyddu gyda chwyddiant, ar gyfer y ddwy flynedd nesaf," meddai llefarydd ar ran S4C. 
 
"Mae gwerth cynllun rhaglenni BBC Cymru i S4C wedi ei gytuno ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, a does dim gostyngiad i hwnnw. Does dim awgrym chwaith y bydd unrhyw doriad yng ngwerth y cynllun hwnnw tu hwnt i hynny.
 
"Byddwn yn trafod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau incwm digonol i S4C fel rhan o Adolygiad Siarter y BBC ar gyfer y blynyddoedd canlynol.”
 
Fe all hynny olygu bod S4C yn weddol sicr o'u harian ar gyfer y ddwy flynedd nesa - ond fe fyddan nhwythau hefyd yn y niwl o ran beth sy'n digwydd ar ôl hynny. Yn 2028 fe fydd angen adnewyddu siarter y BBC.
 
Mae rhaglen Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu ag adran ddiwylliant Llywodraeth y DU - DCMS - gan ofyn am ymateb.
 
Ond mae'r cyhoeddiad am doriadau'n achos gofid hefyd i'r corff sy'n siarad ar ran y cynhyrchwyr annibynnol, TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru).

 

“Mae’r datganiad gan y BBC yn amlwg yn un pryderus iawn," meddai'r Cadeirydd Llŷr Morus.

"Fe fydd hyn nid yn unig yn cael effaith ar weithlu’r BBC yma yng Nghymru ond hefyd ar y cyfleoedd comisiynu, felly mae hyn am gael effaith ar draws y sector gynhyrchu.  

"Mae TAC yn falch o’r berthynas dda sydd ganddi gyda’r BBC, a byddaf yn gofyn am gael trafodaethau er mwyn gweld sut gallwn gynnig cefnogaeth i’r BBC a pharhau gyda’r cydweithio agos er lles aelodau TAC a’r sector ehangach yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Drannoeth y cyhoeddiad felly, mae digon o gwestiynau beth fydd yr effaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.