Pryd fydd canlyniadau etholiad y Senedd yn cael eu cyhoeddi?
Bydd pleidleiswyr yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio ddydd Iau, Mai 7, ar gyfer etholiad Senedd Cymru.
Dyma’r tro cyntaf i’r etholiad ddefnyddio system bleidleisio gyfrannol newydd, gydag 16 etholaeth a phob un yn cael eu cynrychioli gan chwe aelod o’r Senedd.
Mae hynny’n golygu y bydd 96 o aelodau’n cael eu hethol, o’i gymharu â 60 yn flaenorol.
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07.00 a 22.00 ddydd Iau, ond ni fydd unrhyw ganlyniadau dros nos.
Bydd y cyfri yn dechrau fore dydd Gwener, 8 Mai, ac mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.
Oherwydd ei fod yn system bleidleisio newydd mae mwy o ansicrwydd nag arfer ynglŷn â phryd fydd y canlyniadau llawn wedi eu cyhoeddi.
Mae asiantaeth newyddion PA wedi casglu amseroedd amcangyfrifedig ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau.
Brasamcanion yw’r amseroedd i gyd. Gallan nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth wirio a chyfrif pleidleisiau, gan lefel y nifer a bleidleisiodd, neu gan yr angen i ail-gyfri pleidleisiau os yw’r canlyniadau’n agos.
Mae’r holl amseroedd yn cyfeirio at ddydd Gwener:
- Casnewydd Islwyn - 14:00
- Gŵyr Abertawe - 14:00
- Sir Fynwy Torfaen - 14:00
- Bangor Conwy Môn - 15:00
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 15:00
- Brycheiniog Tawe Nedd - 15:00
- Caerdydd Ffynnon Taf - 15:00
- Caerdydd Penarth - 15:00
- Ceredigion Penfro - 15:00
- Clwyd - 15:00
- Pen-y-Bont Bro Morgannwg 15:00
- Afan Ogwr Rhondda - 15:30
- Gwynedd Maldwyn - 15:30
- Pontypridd Cynon Merthyr - 16:00
- Sir Gaerfyrddin - 16:00
- Fflint Wrecsam - 17:30
Llafur oedd y blaid fwyaf yn y Senedd ddiwethaf. Roedd ganddi 29 sedd allan o 60, ychydig yn brin o fwyafrif.
Ond mae arolygon barn hyd yma yn awgrymu nad oes yr un blaid yn debygol o ennill mwyafrif yn y Senedd newydd.
Roedd arolwg barn newydd wedi ei gomisiynu gan Newyddion S4C a Phrifysgol Aberystwyth a gyhoeddwyd ddydd Mercher diwethaf yn awgrymu bod Reform UK ar y blaen.
Roedd yr arolwg gan gwmni Survation yn awgrymu bod Reform ar 29.6% o’r bleidlais, a Phlaid Cymru yn yr ail safle ar 27.8%.
Roedd arolwg a gyhoeddwyd gan gwmni More in Common ddydd Llun yn awgrymu y gallai Plaid Cymru a Reform ennill yr un nifer o seddi, sef 34 yr un.
Yn ôl yr arolwg, byddai disgwyl i'r Blaid Lafur ennill 14 sedd, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig â naw sedd, a'r Blaid Werdd yn ennill pum sedd.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu na fyddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ennill unrhyw seddi.