Plant sy’n gadael gofal i fyw gyda pherthnasau yn cael eu ‘hesgeuluso’, yn ôl astudiaeth
Mae plant yng Nghymru sy’n gadael gofal i fyw gydag aelodau o’u teulu yn cael eu hesgeuluso, er gwaethaf heriau iechyd meddwl sylweddol, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod plant sy’n derbyn gofal gan berthnasau yn profi anawsterau iechyd meddwl ac ymddygiad. Mae rhai cyn ifanced â phedair oed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i’r “cymorth cywir fod yn ei le” i ddiogelu lles plant sy’n symud i amgylchedd teuluol newydd.
Yn ôl yr ymchwil, roedd mwy na 50% o blant wedi’u graddio fel rhai sydd â lefelau uchel neu uchel iawn o anawsterau emosiynol ac ymddygiad.
Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 8% yn y boblogaeth plant ehangach.
Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan y Nuffield Foundation.
Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig
Mae Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (GGA) yn cael ei roi gan lys.
Mae’n galluogi plentyn i adael y system ofal a byw’n barhaol gyda rhywun sydd ddim yn rhiant biolegol iddo.
Yn aml, mae hynny’n golygu nain, taid, modryb, ewythr, aelod arall o’r teulu, neu ofalwr sydd eisoes â pherthynas â’r plentyn.
Nid yw’r plentyn yn cael ei fabwysiadu, ac mae’r trefniant yn gallu ei helpu i gadw cysylltiad â’i deulu a’i gymuned.
Ond yn ôl yr adroddiad, mae llawer o blant a’u teuluoedd yn cael eu gadael heb gefnogaeth barhaus ar ôl i'r GGA gael ei roi.
Dywedodd yr ymchwilydd arweiniol Dr Lorna Stabler o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant fod y canfyddiadau yn datgelu “amgylchiadau heriol” y mae gwarcheidwaid arbennig yn eu hwynebu yng Nghymru.
“Mae gofalwyr sy’n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig yn aml yn camu i’r adwy i ofalu am blant ar sail cariad ac ymrwymiad dwfn iddyn nhw.
“Maen nhw eisiau cynnig amgylchedd sefydlog hirdymor i blant sydd wedi profi trawma ac adfyd.
“Mae llawer yn credu, gan fod plentyn yn byw gyda pherthynas, nad oes angen unrhyw gymorth pellach arno, ond mae ein hymchwil ni’n dangos nad yw hyn yn wir.”
Fel rhan o’r ymchwil, fe wnaeth 42 o blant rhwng pedair a saith oed sy’n derbyn gofal gan berthnasau gymryd rhan mewn ymweliadau wyneb yn wyneb ag ymchwilwyr.
Gofynnwyd i ofalwyr ac athrawon lenwi mesurau yn seiliedig ar eu harsylwadau o’r plant.
Dywedodd y cyd-ymchwilydd, yr Athro Katherine Shelton o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Mae ein canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen i ragweld cefnogaeth ychwanegol i blant sy’n destun GGA, mewn lleoliadau addysg ac iechyd.
“Er y gall hyn ddechrau gydag asesiadau seicolegol manwl, mae hefyd yn bwysig dehongli'r rhain o fewn yr amgylcheddau ehangach lle mae plant yn byw ac yn dysgu, fel eu hystafell ddosbarth a'r iard chwarae.”
Anghydraddoldebau
Mae’r astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at anghydraddoldebau o ran pa blant mewn gofal sy’n derbyn Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.
Roedd plant ag anabledd, y rhai nad oeddent yn wyn, a’r rhai sy’n byw mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol penodol yn llai tebygol na phlant eraill mewn gofal o gael Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.
Ym Merthyr Tudful, gwnaeth 15.6% o’r holl blant yn y sampl adael gofal gyda Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, ond yn Wrecsam dim ond 2.7% oedd y ffigwr.
‘Ar ben dy hun’
Dywedodd Daisy Chaudhuri, gofalwr a fagodd dri phlentyn dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig: “Dydw i ddim yn synnu am y nifer uchel o blant sydd wedi dioddef profiadau plentyndod niweidiol, anawsterau emosiynol a phroblemau iechyd meddwl yn yr ymchwil yma.
“Yn fy marn i, mae 100% o blant yn cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd, oherwydd mae cael eich symud i ffwrdd o’ch teulu geni yn brofiad plentyndod negyddol ynddo'i hun.
“Mae rhoi GGA yn aml yn cael ei ystyried fel cam gweithredu olaf y wladwriaeth.
“Y tro cyntaf i mi ofyn am help dywedodd un gweithiwr cymdeithasol wrtha’ i, 'fe gest ti GGA, felly rwyt ti ar ben dy hun nawr!'
“Nid dyna'r argraff ges i mi pan ofynnwyd i mi gael GGA.”
Daeth Sharon De’Ath o'r Coed Duon ger Caerffili yn gyfrifol am ei hŵyr, Reegan, pan roedd yn 10 mis oed.
Bellach yn 14 oed, mae Reegan yn gwneud yn dda, ond dywedodd Sharon ei bod wedi gorfod brwydro iddo gael mynediad at therapi.
Ar y dechrau roedd Sharon a’i gŵr yn rhieni maeth i Reegan, ond cawson nhw eu perswadio gan yr awdurdod lleol i wneud cais am Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.
Yn ôl Sharon, daeth unrhyw gymorth i ben ar ôl caniatáu’r gorchymyn hwnnw.
Dywedodd Sharon ei bod wedi cwestiynu os wnaeth hi’r peth cywir yn cymrud cyfrifoldeb dros Reegan drwy'r GGA.
“Pe bai wedi aros yn y system faethu neu wedi cael ei fabwysiadu, byddai wedi cael mynediad gwell at therapi, ond rydyn ni wedi gorfod brwydro am bob un tamaid o gymorth.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae symud i amgylchedd teuluol newydd yn newid sylweddol i blentyn, ac mae'n rhaid i'r cymorth cywir fod yn ei le i ddiogelu eu lles.
“Rydym wedi ymgynghori i gryfhau ein canllawiau i awdurdodau lleol ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
“Mae'r newidiadau'n gwella cysondeb, atebolrwydd a thryloywder, gan gefnogi teuluoedd gyda chynlluniau ar sut i gwrdd ag anghenion iechyd, addysg ac emosiynol pob plentyn.
“Bydd y canllawiau'n cael eu gosod o flaen y Senedd yn ystod y misoedd nesaf.”