Plant ardaloedd Dechrau'n Deg yn 'llai tebygol o fod angen ymyrraeth gwasanaethau cymdeithasol'

Gofal plant

Mae plant a gafodd eu geni yn ardaloedd Dechrau'n Deg yn llawer llai tebygol o fod angen ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol erbyn iddyn nhw gyrraedd pedair neu bump oed, yn ôl astudiaeth newydd.

Cafodd yr astudiaeth ei gwneud gan academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste, gan edrych ar fwy na 126,000 o blant a gafodd eu geni mewn 16 Awdurdod Lleol Cymru rhwng 2012 a 2017.

Mae Dechrau’n Deg, sy’n gynllun gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig gwasanaethau i bob teulu sydd â phlant dan bedair oed sy’n byw mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys gofal plant ychwanegol am ddim, apwyntiadau gwell gydag ymwelwyr iechyd, a grwpiau i rieni a babanod.

Mae prif ganfyddiadau'r astudiaeth yn datgan fod plant a gafodd eu geni yn yr ardaloedd hyn 35% yn llai tebygol o fod â chynlluniau Gofal a Chymorth erbyn pedair neu bump oed na’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd yr un mor ddifreintiedig, a dros 40% yn llai tebygol o ddod yn Blant sy'n Derbyn Gofal. 

Roedd mamau o dan 21 oed 42% yn llai tebygol o fod â chynllun Gofal a Chymorth hefyd yn ôl yr astudiaeth. 

Ni wnaeth academyddion ganfod unrhyw effaith gadarnhaol na negyddol ar nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ardaloedd Dechrau'n Deg.

'Tystiolaeth gref'

Dywedodd prif awdur yr adroddiad, Dr Meng Le Zhang, sy'n gweithio yn CASCADE, sef Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant: “Mae hyn yn dystiolaeth bwysig o effaith gadarnhaol cymorth teuluol cyfannol a chydgysylltiedig sy’n seiliedig ar y gymdogaeth ar gyfer teuluoedd ifanc. 

"Daw hyn ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru, yn debyg i lywodraethau eraill y DU, yn ystyried y ffordd orau o gyflawni ei haddewidion ynghylch ei chynnig gofal plant ochr yn ochr â darpariaeth arall ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

Ychwanegodd yr Athro Sally Holland, Cyn-gomisiynydd Plant Cymru, sydd hefyd yn gweithio yn CASCADE: “Mae ein hymchwil yn cynnig tystiolaeth gref o effaith gadarnhaol gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn bwysig mewn dwy ffordd. 

"Yn gyntaf, mae'n lleihau trawma yn sgil gwahanu i blant a rhieni, rhywbeth sy’n gallu cael goblygiadau hirdymor. Yn ail, mae gwasanaethau megis gofal maeth a gofal preswyl yn cymryd cyfran fawr o gyllidebau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol."

Ar gyfer yr astudiaeth, fe edrychodd academyddion ar y tebygolrwydd o blant yn cael Cynllun Gofal a Chymorth ffurfiol gan wasanaethau cymdeithasol plant.

Fe fuon nhw'n bwrw golwg hefyd ar y tebygolrwydd y byddai plant yn cael gofal yn ogystal â chael eu cofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.