Aelodau o'r Teulu Brenhinol i ymweld ag Aberfan 60 mlynedd wedi'r trychineb
Fe fydd y Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru yn ymweld â phentref Aberfan i nodi 60 o flynyddoedd ers y trychineb a laddodd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant.
Bydd Charles, Camilla a William yn ymweld â Gardd Goffa Aberfan a Chanolfan Gymunedol Aberfan ar 21 Hydref, cyn i William ymweld ag ysgol gynradd i ddadorchuddio Coeden Goffa Aberfan.
Bydd y tri yn ymuno â goroeswyr, rhieni a gollodd eu plant ac aelodau o'r gymuned i roi teyrnged i'r 144 o bobl a gollodd eu bywydau, pan gwympodd tomen o wastraff glo ar y pentref ym mis Hydref 1966.
Ar ddechrau eu hymweliad â De Cymru fe fyddant yn mynd i Ardd Goffa Aberfan, sydd wedi'i lleoli ar safle cyn-Ysgol Gynradd Pantglas.
Bu farw 109 o blant a phump o athrawon yno yn y digwyddiad, eiliadau cyn i wersi ddechrau ar fore'r trychineb.
Bydd William yn gorffen ei ymweliad ag Aberfan yn Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen, lle bydd yn dadorchuddio Coeden Goffa Aberfan, cerflun newydd a grewyd i nodi'r 60fed pen-blwydd.
Cafodd y goeden ei dylunio a'i chreu gan ArtMetal, cwmni gwaith metel teuluol sydd wedi'i leoli yn Rhaeadr Gwy, Powys.
Yn ystod camau cynnar y broses gynllunio, gwahoddwyd disgyblion i rannu lluniau a syniadau ar gyfer y gofeb, gan helpu i lunio'r cynllun.
Fe wnaeth y Frenhines Elisabeth II ymweld ag Aberfan wyth diwrnod ar ôl y digwyddiad yn 1966, ychydig ar ôl i angladd torfol gael ei gynnal yno.
Aeth yn ôl i Aberfan sawl gwaith trwy gydol ei hoes, gan ymweld dair gwaith ac agor Ysgol Gynradd Ynysowen yn 2012.
Llun: Llywelyn2000