Seren 'Breaking Bad' yn rhoi teyrnged i'w gyd-actor RJ Mitte, fu farw'n 34 oed
Mae prif seren y gyfres ddrama deledu 'Breaking Bad' wedi dweud ei fod "wedi ei ddryllio" gan farwolaeth ei gyd-actor RJ Mitte yn 34 oed.
Roedd Mitte yn fab ar y sgrîn i Bryan Cranston yn y gyfres boblogaidd.
Cafodd y newyddion am farwolaeth Mr Mitte ei gyhoeddi nos Llun.
Daeth yn enwog am ei ran fel Walter White Jr yn y gyfres a enillodd wobr Emmy.
Defnyddiodd ei lwyddiant i hyrwyddo hawliau pobl anabl, gan gyfeirio at ei brofiad o fyw gyda pharlys yr ymennydd.
Mewn neges emosiynol ar Instagram, dywedodd Bryan Cranston fod y ddau wedi cyfnewid negeseuon testun yn ystod yr wythnosau diwethaf ac wedi ceisio trefnu cyfle i gwrdd.
Ysgrifennodd: “Rwyf mewn tristwch dwfn wrth i mi ysgrifennu hyn heno. Mae RJ Mitte, fy mab annwyl yn Breaking Bad, wedi marw.
“Fe wnes i ei gyfarfod pan oedd ond yn 14 oed, pan gafodd ei ddewis i chwarae rhan Walter White Jr - rhan a chwaraeodd gyda chymaint o lawenydd a brwdfrydedd.
“Gan ei fod wedi’i eni gyda pharlys yr ymennydd, ni wnaeth erioed - byth - adael i’r her honno fod yn esgus dros unrhyw beth.”
Actor a chynhyrchydd
Roedd Mitte - neu Roy Frank Mitte III yn ôl ei enw genedigol - yn actor a chynhyrchydd a ddechreuodd ei yrfa ym myd adloniant drwy actio mewn comedïau yn cynnwys 'Everybody Hates Chris' a 'Hannah Montana'.
Daeth yn adnabyddus yn 2008 ar ôl cael ei ddewis i actio prif ran yn y gyfres drosedd 'Breaking Bad', gan chwarae rhan mab Walter White - athro cemeg tawel mewn ysgol uwchradd sydd yn trawsnewid i fod yn bennaeth creulon ym myd cyffuriau.
Fe wnaeth Mitte ymddangos yn y gyfres am y tro cyntaf yn 15 oed gan actio yn y gyfres tan iddi ddod i ben yn 2013.
Ymysg yr actorion eraill yn y gyfres roedd sêr Hollywood fel Cranston ac Aaron Paul, yn ogystal ag Anna Gunn, Bob Odenkirk a Dean Norris.