Cannoedd yn rhagor o garcharorion i gael eu rhyddhau'n gynnar
Fe fydd cannoedd yn rhagor o garcharorion yn cael eu rhyddhau'n gynnar o garchardai Cymru a Lloegr ddydd Llun.
Dyma'r ail don o garcharorion fydd a'u traed yn rhydd yn gynt na'r disgwyl o dan bolisi'r Ddeddf Dedfrydu a ddaeth i rym ar 1 Hydref.
Cafodd 700 o garcharorion eu rhyddhau fel rhan o'r don gyntaf - yn garcharorion oedd dan glo am ddedfrydau llai na 19 mis.
Bydd tua 650 o garcharorion yn cael eu rhyddhau ddydd Mawrth.
Bwriad cynllun Llywodraeth y DU yw i leihau nifer y carcharorion drwy ryddhau rhai ohonyn nhw’n gynnar, yn sgil gorlenwi mewn carchardai.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi cyhoeddi'n flaenorol na fydd unrhyw un a gafwyd yn euog o ladd anghyfreithlon yn gymwys i gael ei ryddhau o’r carchar yn gynnar.
Bydd carcharorion a gafwyd yn euog o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant hefyd yn cael eu heithrio o’r newidiadau.
Dywedodd adran cyfiawnder Llywodraeth y DU y bydd y troseddwyr yn cael eu monitro dan y system goruchwylio “mwyaf llym yn hanes Prydain.”
Ond mae dioddefwyr mathau eraill o droseddau wedi galw am gyfyngiadau pellach.
Yn gynharach eleni, dywedodd dynes o Wynedd gafodd ei bygwth â gwn gan ei chyn-bartner y dylai camdrinwyr domestig gael eu cadw dan glo gan nad ydy’r system i’w goruchwylio’n gweithio’n effeithiol.
“Fel mae pethau ar hyn o bryd, o ystyried lefel y risg sy’n gysylltiedig â rhai o’r troseddwyr dan sylw, dw i ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu rhyddhau,” meddai Rhianon Bragg.
Llwyth gwaith
Mae pryderon wedi codi am effeithlonrwydd y polisi newydd, gydag arweinwyr undeb NAPO, sydd yn cynrychioli swyddogion prawf, yn bryderus am effaith y newidiadau ar lwyth gwaith eu haelodau
Dywedodd Cadeirydd Cenedlaethol yr undeb, Ben Cockburn: “Mae'n ymddangos bod gwadu llwyr yn arweinyddiaeth Gwasanaeth Carchardai Ei Fawrhydi am pa mor wael yw cyflwr y gwasanaeth prawf.
"Mae gennym brinder staff enfawr, llwythi gwaith anghynaliadwy a pheryglus o uchel ac yr wythnos hon byddwn yn clywed eto fod monitro electronig yn methu â chyflawni.
“Ar ben hyn mae gennym gyflog anghystadleuol, llwythi gwaith mewn argyfwng a gweithlu sy’n paratoi i bleidleisio ar weithredu diwydiannol. Rhaid i’r Arglwydd Ganghellor a’r Prif Weinidog nawr ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol yng ngwasanaethau rheng flaen y gwasanaeth prawf fel y gall ymdopi â’r gwaith ychwanegol y mae’n rhaid i’n haelodau ddelio ag ef.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol NAPO, Ian Lawrence: “Nid oes staff ar draws y gwasanaeth i wneud y gwaith sy’n cael ei ofyn ganddynt. Nid yw’n ymwneud â rhyddhau cynnar yn unig, mae’r gwasanaeth prawf yn rheoli dros 200,000 o bobl ar brawf.
“Os yw’r llywodraeth o ddifrif ynglŷn â chefnogi dioddefwyr yn well, yna rhaid iddi gymryd yr argyfwng prawf o ddifrif.
"Ni allwch ddatrys yr argyfwng carchardai oni bai bod y gwasanaeth prawf yn gweithredu’n llawn ac yn darparu dewis arall go iawn yn lle’r ddalfa. Yn lle hynny, mae mwy o waith yn cael ei daflu ar y gwasanaeth prawf heb roi cyflog gweddus i’n haelodau.”