Comisiynydd y Gymraeg: Angen normaleiddio'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Comisiynydd y Gymraeg

‘Rydym ni yn byw yn gynyddol ar ein ffonau, felly mae’n gynyddol bwysig ein bod ni yn clywed y Gymraeg yn y gofodau yma.’

Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi pwysleisio’r pwysigrwydd o allu clywed y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. 

"Fe ddylwn ni allu byw pob rhan o’n bywydau drwy’r Gymraeg," meddai.

"Ni’n byw drws nesaf i un o ieithoedd mwyaf y byd. Mae gymaint o bethau o’n hamgylch yn y Saesneg. Mae'n bwysig ein bod ni yn defnyddio a chlywed y Gymraeg bob cyfle rydym ni yn ei gael."

Nododd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, bryder ar yr effaith all peidio â chlywed y Gymraeg mewn mannau digidol ei chael ar lefelau'r Gymraeg ym mywyd dydd i ddydd. 

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystadegau yn dangos bod nifer y bobl sydd yn siarad Cymraeg wedi gostwng dros y ddwy flynedd diwethaf. 

Ac ym mis Mawrth, fe wnaeth swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ryddhau adroddiad yn egluro fod defnyddio'r Gymraeg mewn gofodau ‘cymdeithasol, diwylliannol a digidol’ yn ‘allweddol i ffyniant y Gymraeg.’

"Rydym ni yn mynd i’r ysgol er mwyn dysgu sgiliau newydd i’w gallu defnyddio yn y byd go iawn," meddai.

"Mae’n bwysig felly i bobl allu clywed y Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau er mwyn iddi ffynnu tu allan i’r ystafelloedd dosbarth."

Yn ôl y comisiynydd, un o’r ffurf gorau i wneud hyn yw annog pawb i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.

"Mae angen normaleiddio'r Gymraeg yn y gofodau hyn, ond yr unig ffordd i wneud hyn yw os ydy mwy ohonom ni yn defnyddio'r Gymraeg," meddai.

"Mae rhan gyda ni gyd i chwarae yn hynny. Falle fod her i ni gyd ddod yn grëwyr cynnwys ein hunain."

‘Naturiol’

Image
mari
Mari Fychan 

Dechreuodd Mari Fychan greu cynnwys ar wefannau cymdeithasol Instagram a TikTok ar ôl i’w llais yn llefaru'r gerdd ‘Etifeddiaeth’ fynd yn feiral.

"Dwi’n siarad Cymraeg ymhob agwedd o fy mywyd, felly oedd hi yn hollol naturiol i fi wneud cynnwys yn y Gymraeg hefyd," meddai. 

Mae Mari hefyd wedi sylwi ar fwy o grëwyr cynnwys Cymraeg. 

"Dwi’n meddwl bod yr algorithm wedi nodi’r ffaith bod fi yn siarad Cymraeg, a bod fi hefyd yn hoffi cynnwys sydd yn cael ei greu yn y Gymraeg, ac felly yn dangos fwy o gynnwys tebyg i mi," meddai.

"Dwi’n falch bod 'na gynulleidfa yna sydd yn gwylio cynnwys yn y Gymraeg. Mae wedi galluogi fi i fod yn fwy naturiol ac i fwynhau'r hyn dwi yn ei wneud," meddai. 

Image
berwyn
Berwyn Jones

Mae Berwyn Jones, sy’n cael ei adnabod ar y cyfryngau cymdeithasol fel ‘thebaldwelshteacher’, yn creu cynnwys i ddysgu Cymraeg i’w 12,000 o ddilynwyr. 

"Mae’r cyfyngau cymdeithasol yn ffordd dda o gyrraedd pobl a dangos iddyn nhw bod dysgu Cymraeg yn gallu bod yn hwyl," meddai. 

Ers iddo ddechrau creu'r fideos addysgiadol, mae Berwyn wedi llwyddo i gysylltu gyda phobl ar draws y byd.

"Yn aml y naratif ym Mhrydain yw bod Cymraeg yn iaith sydd ddim yn ddefnyddiol, neu fod neb yn ei siarad. Ond ar draws y byd, dwi’n gweld pobl yn parchu'r iaith, ac yn meddwl ei fod o yn rhywbeth sydd yn cŵl i ddysgu," meddai.

"Y dyddiau yma, mae pawb ar eu ffonau, felly os ydyn ni ishe’r iaith barhau, dyma ble mae angen i’r Gymraeg fod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.