Ofnau bod pedwar o Brydain wedi marw mewn tân gwyllt yn Sbaen

Tân yn Sbaen

Mae ofnau bod pedwar o bobl o Brydain wedi marw mewn tân gwyllt yn ne Sbaen.

Cafodd pedwar corff eu darganfod mewn car oedd wedi llosgi ger pentref Bédar yn nhalaith Almería.

Roedd olwyn lywio’r car ar yr ochr dde, ac mae’r awdurdodau’n credu bod y bobl oedd ynddo “o dras Brydeinig”.

Mae o leiaf 11 o bobl wedi marw yn y tân, meddai awdurdodau Andalusia ddydd Gwener.

Nid yw’r meirw wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto.

Mae’r awdurdodau’n credu mai twristiaid tramor oedd y saith person arall a fu farw.

Credir eu bod wedi gadael eu cerbydau ac wedi ceisio dianc ar droed drwy dir garw.

Dywedodd Antonio Sanz, gweinidog iechyd ac argyfyngau Andalusia, fod y dioddefwyr wedi ceisio dod o hyd i’w “ffordd eu hunain allan” drwy wely afon sych, yn hytrach na dilyn y llwybr oedd wedi’i drefnu gan y gwasanaethau brys.

“Daeth y penderfyniad i ddilyn llwybr arall yn hytrach na’r llwybr dynodedig ar gyfer gadael yr ardal yn fagl farwol,” meddai.

Roedd yr awdurdodau wedi dweud yn gynharach bod 12 o bobl wedi marw, ond mae’r ffigur wedi’i ddiwygio i 11.

Mae’r nifer yn parhau’n un dros dro wrth i dimau achub barhau i chwilio’r ardal.

Dywedodd Mr Sanz fod pedwar person wedi’u hanafu’n ddifrifol ac wyth arall wedi dioddef anafiadau llai difrifol.

Cafodd 122 o bobl eu symud o’r ardal ac mae mwy na 3,000 hectar o dir wedi llosgi.

Mae’r tân yn parhau i losgi.

“Mae’r tân wedi symud yn gyflym iawn, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn ofnadwy,” meddai Mr Sanz.

“Does dim geiriau am gymaint o boen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.