‘Newid yn faint o Gymraeg fi’n clywed’: Eisteddfod gyntaf Grangetown i gael ei chynnal
Bydd eisteddfod yn cael ei chynnal yn ardal Grangetown, Caerdydd, am y tro cyntaf ddydd Sul, 7 Mehefin.
Bydd Eisteddfod Grangetown yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Grangetown, gyda chystadlaethau, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau i deuluoedd yn rhan o’r diwrnod.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Joe Healy, fydd yn beirniadu cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn y digwyddiad, ei fod wedi sylwi ar dwf yn y Gymraeg yn ystod y chwe blynedd ers iddo symud i’r ardal.
“Fi wedi gweld newid yn faint o Gymraeg fi’n clywed o gwmpas fi,” meddai.
“So mae’n mynd yn gryfach fi’n credu.”
Enillodd Mr Healy, sy’n wreiddiol o dde Llundain, wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022.
Mae bellach yn diwtor yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd fod nifer o bobl yn yr ardal yn gwneud ymdrech arbennig i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio yn eu cartrefi.
“Fi’n sylweddoli bod lot o bobl yn trio eu gorau glas i ddysgu’r iaith Gymraeg a dod i nabod yr iaith yn well,” meddai.
Ychwanegodd fod dosbarthiadau wedi cael eu sefydlu drwy Dysgu Cymraeg Caerdydd ar gyfer pobl yn yr ardal, gan gynnwys rhieni sydd â phlant yn Ysgol Hamadryad.
Dywedodd Mr Healy nad siaradwyr Cymraeg sydd wedi symud i’r ardal yn unig sydd i’w clywed yn defnyddio’r iaith.
Ychwanegodd fod plant sy’n tyfu i fyny yn Grangetown yn defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd a rhannu syniadau am sut y gallai’r eisteddfod ddatblygu yn y dyfodol.
“Mae’n wych i weld i fi, a mae’n rhywbeth ni’n gallu bod yn falch iawn o fod yn gallu rhannu hwnna gyda’r gymuned.”
Syniad y gymuned
Dywedodd Charlotte Brown, sy’n aelod o’r tîm trefnu, fod y syniad o gynnal yr eisteddfod wedi dod gan Gymuned Gymraeg Grangetown, sef grŵp o siaradwyr Cymraeg lleol.
“Mae’r cyfan wedi cael ei arwain gan y gymuned,” meddai.
“Y pwynt, mae’n debyg, yw trio gwneud y Gymraeg ychydig yn fwy gweladwy yn y gymuned amrywiol yma, trio ei gwneud yn hygyrch, a’i dathlu hefyd.”
Mae’r digwyddiad wedi cael cymorth ariannol gan Brifysgol Caerdydd drwy Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol, ac hefyd drwy brosiect Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd cystadlaethau canu, llefaru, celf a chrefft yn cael eu cynnal, yn ogystal â chystadleuaeth limrig, cystadleuaeth y gadair a chystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Dywedodd Ceri Thomas, pennaeth Ysgol Hamadryad, y bydd rhai o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu yn y cystadlaethau llwyfan ac mae rhai eisoes wedi cystadlu yn yr adran Celf a Chrefft.
“Bydd aelodau staff yno’n cefnogi," meddai.
"Mae’n hyfryd gallu cefnogi digwyddiad lleol yn y Gymraeg ac rydym yn gwerthfawrogi holl waith y trefnwyr."
Bydd stondinau, bwyd, cerddoriaeth fyw, gweithdai a gweithgareddau peintio wynebau hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
Bydd yr Urdd yn cynnal sesiynau chwaraeon am ddim, a bydd mynediad i’r eisteddfod yn rhad ac am ddim.
Bydd nifer o enwau cyfarwydd yn arwain o’r llwyfan yn ystod y dydd, gan gynnwys y gyflwynwraig dywydd Yvonne Evans a Dafydd Trystan Davies AS.
Ymhlith y beirniaid fydd Richard Vaughan, Rhian Porter a Gethin Wynn Davies.
Dywedodd yr actores Gwawr Loader, sydd wedi byw yn Grangetown ers 11 mlynedd ac sy’n aelod o’r tîm trefnu, fod y Gymraeg yn cyd-fynd â’r ieithoedd a’r diwylliannau eraill sydd eisoes yn yr ardal.
“Mae'n beth pwysig i nodi bod y Gymraeg ddim yn cymryd lle unrhyw un arall, ond bod e jyst yn eistedd yn gyfforddus wrth ymyl pobl a diwylliannau sydd ’di bod yn byw yma ers degawdau a chanrifoedd,” meddai.
Cyfeiriodd at y dathliadau Eid sy’n cael eu cynnal yn yr ardal fel enghraifft.
“Ni’n cael partis Eid yma, dathliadau felly, sy’n gallu mynd law yn llaw gyda phethau fel eisteddfod, a mae’n hen bryd rili,” meddai.
Dywedodd Ms Loader nad oes angen i bobl fod yn cystadlu er mwyn mynychu.
“Mae wir yn ddiwrnod i bawb,” meddai.
“’Sdim eisiau i chi fod yn cystadlu os nag ydych chi moyn. Yr hyn ni eisiau yw bod chi’n dod ac yn mwynhau’r diwrnod.”
Ysgol uwchradd Gymraeg
Dywedodd Mr Healy ei bod hefyd yn bwysig canolbwyntio ar ddyfodol addysg Gymraeg yn yr ardal.
Er bod Ysgol Hamadryad yn darparu addysg gynradd Gymraeg yn Grangetown, dywedodd fod disgyblion ar hyn o bryd yn gorfod teithio i ogledd Caerdydd er mwyn parhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae gyda ni’r ysgol gynradd yma nawr yn yr ardal, ond hefyd ni eisiau trio pwyso am ysgol uwchradd i ddod gyda hwnna, lle fydd plant lleol yn gallu mynd a defnyddio Cymraeg nhw yn yr ardal leol,” meddai.
“Ar hyn o bryd maen nhw’n gorfod teithio i ogledd Caerdydd i gael addysg uwchradd Gymraeg.”
Ym mis Chwefror, fe wnaeth nifer o enwogion Cymru lofnodi llythyr agored yn galw ar Gyngor Caerdydd i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer trigolion Tre-Biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos.
Dywedodd Gwawr Loader fod cynnal yr eisteddfod yn arwydd pellach o’r galw am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.
“Gobeithio bod e’n dangos i’r cyngor unwaith eto gymaint mae’r Gymraeg yn ei olygu i’r gymuned,” meddai.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd modd cynnal Eisteddfod Grangetown yn flynyddol.
Dywedodd Charlotte Brown fod yr ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol.
“Mae wedi bod yn boblogaidd iawn ac rydyn ni wedi cyffroi pa mor boblogaidd yw e,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol.
"Rydyn ni nawr yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni barhau ag e.”