Môn: Perchennog Melin Llynon yn lansio deiseb i'w chadw'n amryliw
Mae perchennog Melin Llynon ar Ynys Môn wedi lansio deiseb i gadw lliw’r felin yn goch, gwyn a gwyrdd.
Yn ôl Richard Holt mae wedi bod yn “amhosibl anwybyddu’r cannoedd sydd wedi gofyn i’r lliwiau aros” ers iddo baentio’r felin er mwyn dathlu Eisteddfod yr Urdd ar yr ynys ym mis Mai.
Adeiladwyd Melin Llynon, sy’n adeilad rhestredig, yn 1775, a dyma’r unig felin weithredol sydd ar ôl yng Nghymru.
Ym mis Mehefin, fe gafodd Mr Holt orchymyn gan Gyngor Môn yn dweud wrtho fod yn rhaid iddo ail-baentio’r adeilad yn wyn cyn gynted â phosib.
Dywedodd y cyngor ar y pryd fod “dyletswydd statudol ar y Cyngor i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, sy’n sicrhau bod adeiladau rhestredig yn cael eu hamddiffyn a’u rheoli mewn modd cynaliadwy.
“Mae angen i unrhyw addasiadau sy’n effeithio ar gymeriad neu ffabrig adeilad rhestredig gael Caniatâd Adeilad Rhestredig ymlaen llaw. Mae hyn yn berthnasol ym mhob achos, beth bynnag yw'r bwriad y tu ôl i’r gwaith. Y tro hwn, cafodd y gwaith paentio ei wneud heb ganiatâd.”
'Ystyried deiseb'
Mewn cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon, mae Richard Holt wedi dweud bod Cyngor Môn wedi “cadarnhau y bydd deiseb yn cael ei hystyried” i gadw’r lliwiau’n goch, gwyn a gwyrdd.
Bydd hyn ochr yn ochr ag ail ddeiseb i ddychwelyd y felin i’w lliw gwyn gwreiddiol.
Dywedodd Mr Holt y bydd y ddwy ddeiseb ar gael i’w llofnodi yn y felin drwy gydol yr haf.
Nid yw’r ddeiseb ar gael i’w llofnodi ar-lein ar hyn o bryd.
“Fel roeddech chi’n debyg o sylwi, es i mewn i’r tymor yma gyda’r agwedd, ‘Does gen i ddim byd i’w golli’,” meddai.
“Yn ddiweddar, rydw i wedi dysgu llawer am rym meddylfryd cadarnhaol a phwysigrwydd peidio â phoeni gormod am farn pobl eraill.
“Ond rydw i hefyd wedi dysgu’n ddiweddar nad ydych chi i fod i baentio adeilad rhestredig yn goch, gwyn a gwyrdd llachar heb ganiatâd.
“Wedi dweud hynny… mae wedi bod yn amhosibl anwybyddu’r cannoedd sydd wedi gofyn i’r lliwiau aros."
Ychwanegodd ei fod yn "parchu’n llwyr y ffaith y byddai’n well gan rai pobl weld y felin yn cael ei phaentio’n wyn eto, felly rydyn ni wedi sicrhau bod deiseb ar gael ar gyfer hynny hefyd.
“Yn y pen draw, dim ond gwneud yr hyn sydd orau ar gyfer dyfodol y felin ydw i eisiau.
"Ar ôl gweld y manteision i dwristiaeth dros yr haf hwn â’m llygaid fy hun, bydda i’n bersonol yn llofnodi’r ddeiseb i gadw’r lliwiau.”