Marwolaeth Ann Widdecombe yn 'ymosodiad wedi'i dargedu'
Cafodd y cyn Aelod Seneddol Ann Widdecombe ei lladd mewn “ymosodiad wedi’i dargedu” yn ôl heddlu gwrth-derfysgaeth.
Cafodd y cyn-weinidog Ceidwadol ac yna llefarydd Reform UK, ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Haytor, Dartmoor ddydd Iau diwethaf.
Roedd ganddi anafiadau difrifol.
Dros y Sul, cyhoeddodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod dyn gwyn Prydeinig 28 oed wedi ei arestio yn nhref Rotherham, Sir De Efrog ar amheuaeth o lofruddio’r cyn-AS a’r cyn-ASE.
Mae Rotherham tua 270 milltir o gartref Ms Widdecombe yn Nyfnaint.
Dywedodd yr heddlu bryd hynny nad oedd tystiolaeth wedi dod i’r amlwg i brofi unrhyw gymhelliad gwleidyddol.
Bellach mae heddlu gwrth-derfysgaeth wedi ail-arestio'r dyn 28 oed ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu gymell gweithredoedd terfysgol.
Mewn diweddariad yn Scotland Yard ddydd Mawrth, dywedodd y pennaeth plismona gwrth derfysgaeth, y Dirprwy Gomisiynydd Laurence Taylor, bod ymchwiliad gwrth-derfysgol yn “cael ei gynnal ochr yn ochr â'r ymchwiliad llofruddiaeth”, gan gadarnhau eu bod yn “ymchwilio i droseddau terfysgol.”
Ond dywedodd hefyd nad oedd marwolaeth Ms Widdecombe wedi’i chadarnhau fel “gweithred derfysgol”.
“Dyma ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad ffiaidd ar ddynes 78 oed yn ei chartref ei hun,” meddai.
Pan ofynnwyd iddo ai ymosodiad ar Reform UK oedd yr ymosodiad angheuol ar Ann Widdecombe, dywedodd Mr Taylor nad oedd am wneud sylw.
“Nid wyf am ddiystyru unrhyw beth,” meddai.
Dywedodd na fyddai chwaith yn gwneud sylw yn dilyn cwestiwn ynglŷn ag oedd unrhyw wladwriaeth arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
“Rydym yn gweithio drwy beth allai fod yn gymhelliant ar gyfer yr ymosodiad. Ar hyn o bryd, nid wyf yn dymuno gwneud unrhyw sylw ynglŷn â’r cymhelliant.”
Llun: PA
