'Mae gan bawb eu straeon personol': Adroddiad arbennig o'r ffin ag Iran

Newyddion S4C
Merch fach ar ffin Iran

Mae gohebwyr rhaglen Newyddion S4C, Rhodri Llywelyn ac Iwan Griffiths, wedi treulio wythnos ar y ffin ag Iran. Dyma eu hargraffiadau o'r hyn oedd yno:

Croesfan Kapikoy yn nwyrain Twrci yw’r agosaf y cawn ni fynd at Iran.

Wrth i’r rhyfel rygnu ‘mlaen dyw hi ddim yn gwbl glir pwy sy’n cael croesi, ond mae hyd at 1000 o bobl yn mynd ‘nôl ac ymlaen bob dydd.

Yn y pellter ar ochr Iran o’r ffin mae baner ddu enfawr wedi bod yn cyhwfan ers i’r Goruwch Arweinydd, Ayatollah Ali Khamenei, gael ei ladd ar ddiwrnod cynta’r ymladd.

Ond dyw Mehdad ddim yn galaru.

Roedd y dyn ifanc newydd gerdded yr ychydig gannoedd o fetrau i Dwrci gan adael mamwlad dan warchae ar ei ôl.

Mae’n gobeithio cyrraedd Dubai lle mae ganddo waith yno. 

Ond mae wedi gadael ei deulu yn Tehran, ac mae mewn cyswllt â’i frawd sy’n dal yno gyda’i rieni.

“Ro’n i’n siarad ag e heddiw, pum munud yn ôl. Roedd fy mrawd yn dweud bod falle 20 o fomiau yn syrthio ar Tehran. NAWR, pum munud yn ôl. Mae’n lle peryglus iawn," meddai.

Image
Mehdad
Mae Mehdad yn un sydd wedi gadael Iran ac yn gobeithio cyrraedd Dubai

 Ychwanegodd Mehdad bod e’n poeni’n ofnadwy am ei rieni.

 “Ydw, dwi’n poeni cymaint am hynny” meddai. “Mor ofnus. Ond rhyfel yw rhyfel.”

Mae gan bawb eu straeon personol, a rhesymau dros benderfynu gadael Iran. 

Am yn hir, roedd merch ifanc yn sefyll yn unig gyda’i bagiau niferus, yn aros am ffordd o deithio i ddiogelwch Twrci. 

Yn amharod i ddangos ei hwyneb, roedd hi hefyd yn gyndyn iawn i leisio barn o blaid nac yn erbyn cyfundrefn Iran.

“Dwi’n gadael nawr rhag ofn bod Iran yn cau’r ffin” medde hi. “O fewn y flwyddyn, dwi’n gobeithio gallu dechrau astudio meddygaeth yn yr Almaen.”

 A dyma holi’r cwestiwn, a fyddai hi fyth yn dychwelyd i Iran?

“Na. A’i fyth nôl." oedd yr ateb.

Image
IMG_6603.jpeg

Wrth wylio a siarad â’r llif cyson o bobl oedd yn gadael y wlad, mae’n dod yn amlwg iawn bod y farn ynglyn â’r rhyfel, cyfundrefn Iran, ac ymgyrch Israel ac America yn gwbl ranedig.

Roedd un ddynes yn barod i dderbyn penodiad Mojtaba Kamenei fel olynydd i’w dad, yn Oruwch Arweinydd newydd.

“Dyna’r cyfansoddiad” medde hi. Ac yna wrth holi ymhellach, a ydyw hyn yn beth da i’r wlad? Ei hateb yn syml;

“Mae’n well na bomio Trump.” 

Ond galw am ragor o gymorth gan America y mae nifer o Iraniaid. 

Roedd un dyn ifanc yn dweud iddo fod yn rhan o’r protestiadau ar strydoedd Iran ym mis Ionawr. 

Protestiadau arweiniodd at filoedd o bobl yn cael eu lladd gan yr IRGC, Gwarchodlu’r gyfundrefn.

“Fe ddown ni nôl i’r strydoedd pan fydd Reza Pahlavi (mab y Shah diwethaf gafodd ei orchfygu yn Chwyldro 1979) yn ein galw i’r strydoedd” medde fe.

Image
IMG_6605.jpeg
Iwan Griffiths yn gohebu o'r ffin

Yr un yw dyhead Zoe oedd hefyd wedi penderfynu gadael ei gwlad. 

Fe ddangosodd y ddynes luniau a fideos o’r bomio diweddar yn Tehran lle mae ganddi fodryb ac ewythr o hyd. 

Mae’n gweddio am gyfle i gael gwared ar y gyfundrefn haearnaidd sydd wedi bod yn rheoli ers cyhyd, ond ar yr un pryd, yn poeni na fydd unrhyw newid yn sgil penodi mab Ayatollah Ali Kahmeni yn arweinydd.

“Mae gen i deimladau cymysg o hapusrwydd fod rhywun yn mynd i neud rhywbeth am y gyfundrefn yma,” meddai.

“Ar yr un pryd, mae gen i ofn bod mwy o bethau’n mynd i ddigwydd i fy mhobl, i fy ngwlad.” 

Mewn cyfweliad emosiynol, a dagrau’n llenwi ei llygaid, mae’n ychwanegu: “Dwi’n gobeithio bod ‘na oleuni yn y dyfodol i’r wlad. 

"Dwi’n gobeithio y bydd yna newid i’r gyfundrefn ac y daw Reza Pahlavi i gymryd rheolaeth o’r wlad.”

Ond nid pawb sy’n awyddus i adael Iran, a mae ‘na feirniadaeth lem gan nifer o ymgyrch fomio America ac Israel. 

Wrth i nifer cyson o deuluoedd ac unigolion anelu tua Twrci, roedd yna niferoedd sylweddol hefyd yn teithio i’r cyfeiriad arall. 

Image
Iran
Un o'r dynion oedd yn teithio yn ôl i Iran er mwyn cefnogi'r llywodraeth yno yn y rhyfel

Ar un cyfnod, fe ddaeth sawl bws i ffin Kapikoy gan gludo dynion ifanc yn cario bagiau cefn, a hwythau ar frys i groesi i mewn i Iran.

Wrth holi un dyn, dyma ddod i ddeall bod ‘na gefnogaeth o hyd i’r gyfundrefn yn Tehran: “Dwi ‘di bod yn ymweld â Thwrci dros yr wythnos ddiwethaf ac yn methu cysylltu â theulu a dwi angen mynd nôl.”

Dyma’i holi felly am ei farn ynglŷn ag ymgyrch America ac Israel a dod i ddeall ei fod e’n dychwelyd gyda pharodrwydd i ymladd dros ei wlad pe bai angen.

“Mae hwn yn ymosodiad yn erbyn Iraniaid. Mae Israel ac America yn derfysgwyr a ry’ ni’n sefyll gyda’n gwlad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.